1A llefarodd yr Iesu drachefn ar ddamhegion,
2gan ddywedyd, “Cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd gŵr o frenin, a wnaeth neithior i’w fab.
3A danfonodd ei weision i alw’r gwahoddedigion i’r neithior, ac ni fynnent ddyfod.
4Drachefn anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy nghinio, yr ychen a’r pasgedigion wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dowch i’r neithior”.’
5A hwythau, yn ddifater, a aeth ymaith, un i’w faes, a’r llall i’w fasnach;
6a’r lleill a afaelodd yn ei weision ef, a’u cam-drin, a’u lladd.
7A ffromodd y brenin, ac anfonodd ei luoedd, a dinistrio’r lleiddiaid hynny, a llosgi eu dinas.
8Yna medd ef wrth ei weision, ‘Y briodas sydd barod, ond y gwahoddedigion nid oeddent deilwng;
9ewch gan hynny i bennau’r ffyrdd, a phwy bynnag a gaffoch, gelwch i’r neithior.’
10Ac aeth y gweision hynny allan i’r ffyrdd, a chynullasant bawb a gawsant, drwg a da; a llanwyd y neuadd briodas o westeion.
11Ac aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a chanfu yno ddyn heb wisg briodas amdano,
12ac medd ef wrtho, ‘Y cyfaill, pa fodd y daethost ti i mewn yma heb gennyt wisg briodas?’ Yntau a aeth yn fud.
13Yna dywedodd y brenin wrth y gweision, ‘Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan.’ Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
14Canys llawer a alwyd ond ychydig a etholwyd.”
15Yna’r aeth y Phariseaid ac ymgynghori pa fodd y maglent ef ar air.
16Ac anfonant ato eu disgyblion gyda’r Herodianiaid i ddywedyd, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion;
17dywed gan hynny wrthym beth a debygi di? A ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio?”
18Ond canfu’r Iesu eu cast hwynt, a dywedodd, “Pam y temtiwch fi, ragrithwyr?
19Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.”
20Dygasant iddo swllt.
21Ac medd ef wrthynt, “Pwy biau’r ddelw hon a’r argraff?” Meddant hwy, “Cesar.” Yna eb ef wrthynt, “Telwch, ynteu, bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”
22A phan glywsant, rhyfeddasant, a’i adael a myned ymaith.
23Y diwrnod hwnnw daeth ato Sadwceaid, sy’n dywedyd nad oes atgyfodiad;
24a gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a choded had i’w frawd.
25Yr oedd yn ein plith ni saith o frodyr; a’r cyntaf a briododd, ac a fu farw, a chan nad oedd iddo had gadawodd ei wraig i’w frawd;
26yr un modd hefyd yr ail a’r trydydd, hyd y seithfed.
27Ac yn olaf oll bu farw’r wraig.
28Yn yr atgyfodiad, ynteu, i ba un o’r saith y bydd hi’n wraig? Canys pob un ohonynt a’i cafodd hi.”
29Atebodd yr Iesu iddynt, “Yr ydych yn cyfeiliorni am na wyddoch na’r ysgrythurau na gallu Duw.
30Canys yn yr atgyfodiad, ni phriodant ac nis priodir; eithr fel angylion yn y nef y maent.
31Ond am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a lefarwyd wrthych gan Dduw,
32Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob? Nid yw ef Dduw rhai meirw ond rhai byw.”
33A phan glywodd y tyrfaoedd hynny, synasant at ei athrawiaeth ef.
34A phan glywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid,
35ymgynullasant at ei gilydd, a gofynnodd un ohonynt, rhyw gyfreithiwr,
36i’w brofi ef, “Athro, pa un yw’r gorchymyn mwyaf yn y gyfraith?”
37Eb ef wrtho, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.
38Hwn yw’r gorchymyn mwyaf a’r cyntaf.
39Ail orchymyn tebyg iddo yw Câr dy gymydog fel ti dy hun.
40Ar y ddau orchymyn hyn y dibynna’r holl gyfraith a’r proffwydi.”
41A phan oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, gofynnodd yr Iesu iddynt,
42“Beth a debygwch chwi am y Crist? Mab i bwy ydyw?” Meddant wrtho, “I Ddafydd.”
43Medd ef wrthynt, “Pa fodd, ynteu, y geilw Dafydd ef trwy’r Ysbryd yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy neheulaw
hyd oni osodwyf dy elynion o dan dy draed?
45Os Dafydd, ynteu, ai geilw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae’n fab iddo?”
46Ac ni allai neb ateb iddo air, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ei holi mwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.