1Pawl, a alwyd yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes,
2at eglwys Dduw y sydd yng Nghorinth, a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyd â phawb sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob man, yr eiddynt a’r eiddom.
3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
4Byddaf yn diolch i Dduw bob amser o’ch plegid am y gras gan Dduw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu,
5ddarfod eich cyfoethogi ymhob peth ynddo ef, ymhob ymadrodd a phob gwybod,
6megis y cadarnhawyd yn eich plith y dystiolaeth am y Crist,
7fel nad ydych chwi ar ôl am un dawn, gan ddisgwyl datguddiad ein Harglwydd Iesu Grist,
8yr hwn hefyd a’ch cadarnhâ hyd ddiwedd yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu.
9Ffyddlon yw Duw, y’ch galwyd trwyddo i gymdeithas ei fab ef Iesu Grist ein Harglwydd.
10Yr wyf yn deisyf arnoch, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd ohonoch yr un peth bawb, ac na bo ymraniadau yn eich plith chwi, ond bod ohonoch wedi eich cyfuno yn yr un meddwl ac yn yr un farn.
11Canys gwnaethpwyd yn eglur i mi amdanoch, fy mrodyr, gan deulu Chloe, fod ymrysonau yn eich mysg chwi.
12Dyma fy meddwl, — bod pob un ohonoch yn dywedyd: myfi eiddo Pawl wyf, myfi eiddo Apolos, myfi eiddo Cephas, a minnau eiddo Crist.
13A aeth Crist yn gyfran i blaid? Ai Pawl a groeshoeliwyd drosoch, neu ai yn enw Pawl y’ch bedyddiwyd?
14Yr wyf yn diolch na fedyddiais undyn ohonoch ond Crispos a Gaios,
15rhag dywedyd o neb mai yn fy enw i y’ch bedyddiwyd.
16Ond, do, mi fedyddiais deulu Stephanas hefyd; heblaw hynny ni wn a fedyddiais neb arall.
17Canys ni’m hanfonodd Crist i fedyddio ond i bregethu efengyl, a hynny nid mewn doethineb ymadrodd, rhag gwneuthur croes y Crist yn ddiddim.
18Canys y gair am y groes, i’r rhai sydd ar dranc, ffolineb yw, ond i ni, sydd gadwedig, gallu Duw ydyw.
19Canys ysgrifenedig yw, Dinistriaf ddoethineb y doethion, a deall y deallus a wrthodaf.
20 Pa le y mae’r doeth?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.