1Yn awr, yr oedd hyd yn oed i’r cyntaf ordinhadau gwasanaeth a chysegr daearol;
2canys yr oedd pabell wedi ei chodi, y gyntaf, lle yr oedd y canhwyllbren a’r bwrdd a gosodiad y bara, — dyma’r lle a elwir yn Gysegr.
3Tu ôl i’r ail len yr oedd y babell a elwir y Cysegr Santeiddiolaf,
4ac ynddi thuser aur, ac arch y cyfamod wedi ei gorchuddio drosti ag aur, ac yn hon yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron a flagurodd unwaith, a llechau’r cyfamod,
5ac uwch ei phen gerubiaid y gogoniant yn cysgodi dros y drugareddfa; am y rhain ni ellir yn awr sôn bob yn un.
6A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, fe â’r offeiriaid yn eu swydd wrth eu gwasanaeth i mewn i’r babell gyntaf bob amser;
7ond i’r ail unwaith yn y flwyddyn yr â’r archoffeiriad, ac nid neb arall, a hynny nid heb waed, sef ei offrwm drosto’i hun a thros gyfeiliornadau’r bobl.
8Dyma’r hyn a ddengys yr Ysbryd Glân, nad yw’r ffordd i’r cysegr eto wedi ei hagor cyhyd ag y bo’r babell gyntaf yn sefyll;
9cysgod yw hon ar gyfer ei hamser ei hun, ac yn ôl ei threfn offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio’r gweinidog yn ei gydwybod, gan mai ordinhadau’r cnawd ydynt,
10yn dibynnu ar fwydydd a diodydd ac amrywiol olchiadau, hyd amser y diwygiad.
11Ond Crist, wedi dyfod gerbron yn archoffeiriad y pethau da a gafwyd — drwy well a pherffeithiach pabell, nid o waith llaw (hynny yw, nid o’r cread hwn),
12ac nid gyda gwaed geifr a lloi, ond gyda’i waed ei hun yr aeth ef i mewn unwaith am byth i’r cysegr, wedi iddo gael ffordd o dragwyddol ryddhâd.
13Canys os yw gwaed geifr a theirw a lludw anner ar daen ar yr halogion yn dihalogi cyn belled â glanhad y cnawd,
14pa faint mwy y bydd gwaed Crist a’i hoffrymodd ei hun drwy ysbryd tragwyddol yn ddi-fefl i Dduw, yn glanhau ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon i wasanaethu Duw byw?
15A chyfryngwr cyfamod newydd ydyw oherwydd hyn, — fel, wedi bod marwolaeth er rhyddhad oddi wrth y camweddau dan y cyfamod cyntaf, y derbynio’r rhai a alwyd eu haddewid, sef yr etifeddiaeth dragwyddol.
16Canys lle y bo testament, rhaid tybio marwolaeth y testamentwr,
17canys peth yw testament sydd yn sefyll pan fo dynion wedi marw, oherwydd nid oes dim grym ynddo tra fo’r testamentwr yn fyw.
18Am hynny, nid oedd sefydliad hyd yn oed y cyntaf heb waed,
19canys wedi cyhoeddi o Foses bob gorchymyn yn ôl y gyfraith i’r holl bobl, cymerodd ef waed y lloi a’r geifr gyda dŵr a gwlân porffor ac isop, a thaenellodd y llyfr a’r holl bobl hefyd,
20a dywedyd, “Dyma waed y cyfamod a osododd Duw arnoch chwi;”
21a’r babell hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd yn yr un modd â gwaed.
22A bron na ddywedwn mai â gwaed y glanheir popeth yn ôl y gyfraith, a heb ollwng gwaed ni cheir maddeuant.
23Rhaid oedd, felly, i gysgodau’r pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r pethau hyn, ond y nefolion bethau eu hunain ag aberthau gwell rhagor y rhain.
24Canys nid i gysegr o waith llaw, cyffelybiaeth y gwir bethau, yr aeth Crist i mewn, ond i’r nef ei hun i’w weled yn awr yn eglur gerbron Duw drosom ni;
25ac nid i’w offrymu ei hun lawer gwaith, fel y bydd yr archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn â gwaed un arall,
26canys yna rhaid fuasai iddo ddioddef lawer gwaith er seiliad y byd; ond yn awr unwaith am byth, ar gyflawnhad yr oesau, y mae ef wedi ei ddatguddio er diddymiad pechod drwy ei aberth ei hun.
27Ac yn gymaint â’i bod wedi ei gosod i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny, barn,
28felly Crist hefyd wedi ei offrymu un waith i ddwyn arno bechodau llaweroedd, a ymddengys yr ail waith heb berthynas â phechod i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl er iachawdwriaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.