1A dechreuodd erlid mawr y dydd hwnnw ar yr eglwys yng Nghaersalem; ac fe’u gwasgarwyd oll trwy gylchoedd Iwdea a Samaria, oddieithr yr apostolion.
2Claddodd gwŷr duwiol Steffan, ac wylofain yn uchel amdano.
3Ond difrodai Saul yr eglwys, gan fynd i mewn o dŷ i dŷ, a chan lusgo ymaith wŷr a gwragedd fe’u traddodai i garchar.
4Y rhai a wasgarwyd, ynteu, teithiasant gan draethu’r newydd da.
5Aeth Phylip i lawr i ddinas Samaria, a dechreuodd gyhoeddi iddynt y Crist.
6A daliai’r torfeydd yn unfryd ar yr hyn a ddywedai Phylip, wrth glywed ohonynt a gweled yr arwyddion a wnâi;
7canys llawer o’r rhai oedd ag ysbrydion aflan ynddynt — gan lefain â llef uchel deuent allan, a llawer parlysedig a chloff a iachawyd;
8a bu llawenydd mawr yn y ddinas honno.
9Ac yr oedd eisoes ryw ŵr a’i enw Simon yn y ddinas, yn swyna, ac yn synnu cenedl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef yn rhywun mawr;
10a daliai pawb sylw arno, o fawr i fân, gan ddywedyd, “Hwn yw’r Gallu Duw a elwir Mawr.”
11Dalient sylw arno am fod syndod arnynt er ys talm at ei swynion.
12Eithr wedi iddynt gredu Phylip a’i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, bedyddid hwynt, yn wŷr a gwragedd.
13A Simon ei hun yntau a gredodd, ac wedi ei fedyddio bu ddyfal ei lynu wrth Phylip, ac wrth weled gwneuthur arwyddion a grymusterau mawr, fe synnai.
14Ac wedi i’r apostolion yng Nghaersalem glywed i Samaria dderbyn gair Duw anfonasant atynt Bedr ac Ioan;
15a hwythau, wedi dyfod i lawr, gweddïasant drostynt am iddynt gael yr Ysbryd Glân.
16Canys nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt; wedi eu bedyddio yn unig yr oeddynt i enw yr Arglwydd Iesu.
17Yna dodent eu dwylo arnynt, a chaent hwythau’r Ysbryd Glân.
18Ac wedi i Simon weled mai trwy arddodiad dwylo’r apostolion y rhoid yr ysbryd, fe ddug iddynt dâl,
19gan ddywedyd, “Rhowch i minnau’r gallu yma, gael o’r neb y dodwyf fy nwylo arno yr Ysbryd Glân.”
20Ond dywedodd Pedr wrtho, “I goll â thydi a’th arian, am iti feddwl meddiannu dawn Duw trwy dâl!
21Nid oes i ti ran na chyfran yn hyn o beth, canys dy galon nid yw’n union ger bron Duw.
o anwiredd.”ac fel oen ger bron a’i cneifia, yn fud,
felly nid egyr ei enau.
33 Am ei ostyngeiddrwydd ei brawf a omeddwyd iddo;
ei genhedlaeth, pwy a’i traetha?
canys cipir ei fywyd oddiar y ddaear.
34Atebodd yr eunuch a dywedodd wrth Phylip, “Atolwg i ti, am bwy y dywed y proffwyd hyn? Amdano’i hun, neu am rywun arall?”
35Ac agorodd Phylip ei enau, a chan ddechrau â’r ysgrythur honno fe draethodd iddo’r newydd da am yr Iesu.
36Ac a hwynt yn mynd ar hyd y ffordd, deuthant at ryw ddŵr, ac medd yr eunuch, “Dyma ddŵr; beth sy’n lluddias fy medyddio?”
38Ac fe orchmynnodd i’r cerbyd aros, ac aethant i lawr ill dau i’r dŵr, Phylip a’r eunuch, ac fe’i bedyddiodd.
39A phan ddeuthant i fyny o’r dŵr, cipiodd Ysbryd yr Arglwydd Phylip, ac ni welodd yr eunuch mono mwyach; canys âi i’w ffordd yn llawen.
40Eithr Phylip a gafwyd yn Asotus, a chan deithio cyhoeddai’r newydd da yn yr holl ddinasoedd nes ei ddyfod i Gesarea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.