Effesiaid 4 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Yr wyf i, felly, y carcharor yn yr Arglwydd, yn erfyn arnoch rodio’n deilwng o’r alwad y’ch galwyd chwi â hi,

2gyda phob gostyngeiddrwydd a mwyneidd-dra, gyda hirymaros, gan gydymddwyn â’ch gilydd mewn cariad,

3gan fod yn eiddgar i gadw undeb yr ysbryd yn rhwymyn heddwch;

4un corff ac un ysbryd, fel y’ch galwyd hefyd mewn un gobaith, sef gobaith eich galwad;

5un Arglwydd, un ffydd, un bedydd;

6un Duw a Thad pawb, sydd goruwch pawb a thrwy bawb ac ym mhawb.

7Ond i bob un ohonom y rhoddwyd gras yn ôl mesur dawn y Crist.

8Am hynny y dywed

Esgynnodd i’r uchelder a dug gaethiwed yn gaeth, rhoes roddion i ddynion.

9Beth ynteu ydyw yr “esgynnodd” hwn ond ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?

10Yr hwn a ddisgynnodd yw hwnnw hefyd a esgynnodd goruwch pob nef, er mwyn cyflawni popeth.

11Ef hefyd a roes rai yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,

12i gymhwyso’r saint at waith gweinidogaeth, at adeiladu corff Crist,

13hyd oni chyrhaeddom bawb at undeb y ffydd a’r adnabyddiaeth o Fab Duw, at y dyn llawn dwf, at fesur maintioli cyfiawnder Crist;

14fel na byddom mwyach yn fabanod yn cael ein lluchio a’n cylchdroi gan bob gwynt o athrawiaeth, drwy hoced dynion, drwy ystryw i gynllwyn twyll,

15ond, gan ddal at y gwir mewn cariad, y tyfom ym mhopeth ato ef. Ef yw’r pen, sef Crist,

16ac ohono ef y mae’r holl gorff sy’n cael ei gydasio a’i gydgordeddu drwy holl gymalau ei gynhaliaeth yn ôl y gweithrediad sy’n gymesur â phob un rhan, yn tyfu er ei adeiladaeth ei hun mewn cariad.

17Hyn, felly, yr wyf yn ei ddywedyd ac yn ei dynghedu yn yr Arglwydd, na rodioch mwyach fel y rhodia’r cenhedloedd yn oferedd eu meddwl,

18yn dywyll eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fywyd Duw o achos yr anwybod sydd ynddynt, drwy ddallineb eu calonnau,

19y rhai wedi colli pob teimlad a ymollyngodd i drythyllwch i weithredu pob aflendid yn eu gwanc.

20Ond chwychwi, nid fel hyn y dysgasoch y Crist,

21os ef yn wir a glywsoch ac os ynddo ef y’ch dysgwyd, fel y mae’n wirionedd yn yr Iesu;

22am yr ymarweddiad gynt, diosgwch yr hen ddyn sydd yn ymlygru yn ôl chwantau’r twyll,

23ac ymadnewyddwch yn ysbryd eich meddwl,

24a gwisgwch y dyn newydd a grewyd ar ddelw Duw yng nghyfiawnder a santeiddrwydd y gwirionedd.

25Gan hynny, diosgwch y celwydd, a dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, gan mai aelodau bob un o’i gilydd ydym.

26Byddwch ddig ac na phechwch. Na fachluded yr haul ar eich dicter,

27ac na roddwch gyfle i’r diafol.

28Y lleidr, na fydded leidr mwyach, ond yn hytrach llafuried gan weithio gwaith da â’i ddwylo ei hun, fel y bo ganddo rywbeth i’w rannu gyda’r un a fo ag angen arno.

29Na ddeued un gair di-les o’ch genau, ond pa air bynnag a fo’n dda at adeiladu’r hyn sy’n eisiau, fel y rhoddo fendith i’r gwrandawyr.

30Ac na thristewch lân ysbryd Duw, y’ch seliwyd ag ef ar gyfer dydd y rhyddhad.

31Pob chwerwder a nwyd a digofaint a thwrw a chabledd, ymaith â hwy oddi wrthych ynghyd â phob malais.

32Byddwch dirion wrth eich gilydd a thyner-galon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yntau yng Nghrist i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help