1Pa beth, ynteu, yw mantais yr Iddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad?
2Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf oll, ymddiried iddynt oraclau Duw. Pa wahaniaeth?
3Os anghredodd rhai, a ddiryma eu hanghrediniaeth hwy ffyddlondeb Duw?
4Na ato! Yn hytrach caffer Duw yn eirwir ond pob dyn yn gelwyddog,
megis y ceblir ni, ac megis, medd rhywrai, y dywedwn, “gwnawn ddrygioni fel y delo daioni”? Cosb y cyfryw, cyfiawn yw.9Beth ynteu? A ragorir arnom ni? Dim o gwbl. Canys cyhuddasom eisoes Iddewon a Groegiaid, bawb, o fod dan bechod,
10fel yr ysgrifennwyd:
Nid oes cyfiawn, dim un.
11 Nid oes a ddeall, nid oes a gais Dduw;
12 Gŵyrodd pawb, ymlygrasant ynghyd;
Nid oes a wnêl ddaioni, nid oes hyd yn oed un.
13 Bedd agored yw eu gwddf.
Â’u tafodau twyllasant,
Gwenwyn asbiaid dan eu gwefusau;
14 Eu genau sy’n llawn melltith a chwerwedd;
15 Buan eu traed i dywallt gwaed,
16 Distryw a thrueni yn eu ffyrdd.
17 A ffordd tangnefedd nid adnabuant.
18 Nid yw ofn Duw gerbron eu llygaid.
19Gwyddom, pa bethau bynnag a ddywed y ddeddf, mai wrth y sawl sydd dan y ddeddf y llefara, fel y caeer pob genau ac y bo’r holl fyd dan farn Duw;
20oherwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei ŵydd ef.
Salm 143:2. Canys trwy ddeddf y mae adnabyddiaeth o bechod.21Ond yn awr ar wahân i ddeddf y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu, a thystiolaeth iddo gan y ddeddf a’r proffwydi,
22a hwnnw yn gyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb a gred.
23Canys nid oes gwahaniaeth; oblegid pechodd pawb, ac amddifad ydynt o ogoniant Duw,
24a’u cyfiawnhau yn rhad gan ei ras ef, trwy’r brynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,
25yr hwn a osododd Duw yn gymod drwy ffydd, yn ei waed ef, i arddangos ei gyfiawnder: oherwydd myned heibio yn hirymaros Duw i’r pechodau a gyflawnwyd gynt,
26fel yr arddangosai ei gyfiawnder y pryd hwn, ei fod ef yn gyfiawn ac yn gyfiawnhawr y neb sydd ganddo ffydd yn Iesu.
27Pa le, gan hynny, yr ymffrost? Wedi ei gau allan. Trwy ba fath ddeddf? Gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd.
28Canys cyfrifwn y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, ar wahân i weithredoedd deddf.
29Ai Duw i Iddewon yn unig ydyw? Onid i genhedloedd hefyd?
30Ie, i genhedloedd hefyd, os yn wir un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad drwy ffydd, a’r dienwaediad drwy’r un ffydd.
31A ydym felly yn dirymu deddf trwy ffydd? Na ato! Yn hytrach cadarnhau deddf yr ydym.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.