1Dywedaf gan hynny, a wrthododd Duw ei bobl? Na ato! Canys Israeliad wyf finnau, o had Abraham, o lwyth Beniamin.
2Ni wrthododd Duw ei bobl
ac os sanctaidd y gwreiddyn, yna’r canghennau.17Ac os torrwyd ymaith rai o’r canghennau, a’th impio di, olewydden wyllt, yn eu plith, a’th wneuthur yn gyfrannog o’r gwreiddyn, braster yr olewydden,
18nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti, nid tydi sy’n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn dydi.
19Dywedi felly, “Torrwyd ymaith ganghennau fel yr impid fi i mewn.”
20Purion! O achos anghrediniaeth y torrwyd hwy ymaith, ac o achos ffydd y sefi dithau. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.
21Canys os Duw nid arbedodd y canghennau naturiol, ni’th arbed dithau chwaith.
22Gwêl gan hynny diriondeb a llymder Duw: atynt hwy a gwympodd, llymder; ond atat ti, tiriondeb Duw, os glyni wrth ei diriondeb; onid e, torrir dithau ymaith.
23A hwythau hefyd, oni lynant wrth eu hanghrediniaeth, a impir i mewn; canys y mae Duw yn abl i’w himpio i mewn drachefn.
24Felly os torrwyd di ymaith o’r olewydden wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn olewydden dda, pa faint mwy yr impir y canghennau naturiol hyn yn eu holewydden eu hunain?
25Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn (rhag i chwi fod yn gall yn eich tyb eich hunain), mai o ran y daeth caledwch ar Israel, hyd oni ddelo cyflawnder y cenhedloedd i mewn,
26ac felly achubir holl Israel, fel yr ysgrifennwyd: Daw allan o Seion Un a wared, try ymaith bob annuwioldeb oddi wrth Jacob.
27Ac yn hyn y daw fy nghyfamod â hwynt i ben, pan dynnwyf ymaith eu pechodau.
Esa. 59:20, 21.28O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond o ran yr etholedigaeth, anwyliaid er mwyn y tadau.
29Canys di-droi-yn-ôl yw doniau a galwad Duw.
30Canys, megis yr anufuddhasoch chwi gynt i Dduw, ond yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd-dod y rhai hyn,
31yr un modd yn awr yr anufuddhaodd y rhai hyn hefyd, fel trwy ei drugaredd i chwi y caent hwythau yn awr drugaredd.
32Canys cyd-gaeodd Duw bawb mewn anufudd-dod fel y trugarhâi wrth bawb.
33O ddyfnder golud, doethineb, a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy ei farnau ac anolrheinadwy ei ffyrdd!
34Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Neu, pwy a fu gynghorwr iddo?
Esa. 60:13.35Neu, pwy a roes iddo yn gyntaf, ac y telir yn ôl iddo?
Job 41:11.36Oblegid ohono, a thrwyddo, ac iddo, y mae popeth. Iddo ef y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.