2 Corinthiaid RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)
RHAGAIR Y mae blynyddoedd mawr er pan ddechreuwyd cyfieithu Ail Epistol Pawl at y Corinthiaid gan “bwyllgor” yn Aberystwyth. Bu dau o’r cwmni cysefin farw cyn darfod y cyfieithu — yr Athro W. Jenkyn Jones a’r Parchedig Athro J. Young Evans. Coffa da am eu cymdeithas a’u cymorth.Oherwydd anhawster trefnu i gyfarfod â’i gilydd ni bu’n hwylus i holl weddill y pwyllgor — yr Athro T. Gwynn Jones (a roddodd gymorth mawr yn y cwmni gwreiddiol), y Parchedig Herbert Morgan, yr Athro E. D. T. Jenkins, a’r Athro T. H. Parry-Williams — ganlyn ar y gorchwyl. Fe ymgymerodd tri ohonom â chwpláu’r gwaith a’i baratoi ar gyfer ei gyhoeddi.Manteisiwyd ar awgrymiadau gwerthfawr a gafwyd gan Mr. Jenkin James. Testun Nestle, fel arfer, a ddilynwyd wrth gyfieithu. E. D. T. Jenkins. Herbert Morgan. T. H. Parry-Williams.At y Corinthiaid II