1Dechreu efengyl Iesu Grist.
2Fel y mae’n ysgrifenedig yn Esaias y proffwyd,
Wele, yr wyf yn anfon fy nghennad o’th flaen,
yr hwn a ddarpar dy ffordd:
3 llef un yn bloeddio yn y diffeithwch,
Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch ei lwybrau ef,
4felly y daeth bod Ioan y bedyddiwr yn y diffeithwch yn cyhoeddi bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
5Ac âi allan ato holl wlad Iwdea a thrigolion Caersalem oll, a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen gan gyffesu ohonynt eu pechodau.
6Ac yr oedd Ioan wedi ymwisgo â blew camel ac â gwregys croen am ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
7A chyhoeddai gan ddywedyd, “Daw fy nghryfach ar fy ol, nad wyf deilwng i blygu a datod carrai ei esgidiau.
8Bedyddiais i chwi â dwfr, ond bedyddia ef chwi â’r Ysbryd Glân.”
9Ac yn y dyddiau hynny y daeth Iesu o Nasareth Galilea, ac y bedyddiwyd ef yn yr Iorddonen gan Ioan.
10Ac yna wrth esgyn o’r dwfr, gwelodd hollti’r nefoedd, a’r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno;
11a llef a ddaeth o’r nefoedd, “Ti yw fy Mab annwyl; ynot ti yr ymhyfrydais.”
12Ac yna gyr yr Ysbryd ef i’r diffeithwch;
13a bu yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwylltfilod; a’r angylion a weinyddai arno.
14Ac ar ol traddodi Ioan, daeth yr Iesu i Galilea gan gyhoeddi efengyl Duw, a dywedyd,
15“Cyflawnwyd yr amser, ac agoshaodd teyrnas Dduw: edifarhewch a chredwch yn yr efengyl.”
16Ac wrth rodio ger môr Galilea, gwelodd Simon ac Andreas brawd Simon yn rhwydo yn y môr; canys pysgodwyr oeddynt.
17A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Dowch ar fy ol i, a gwnaf i chwi ddyfod yn bysgodwyr dynion.”
18Ac yna gadawsant y rhwydau a dilynasant ef.
19Ac wedi mynd rhagddo ychydig, gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau.
20Ac yna galwodd hwynt; a gadawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r gweision cyflog, ac aethant ymaith ar ei ol ef.
21A chyrchant i Gapernaum; ac yna’r Sabath, wedi iddo fynd i’r synagog, dechreuodd ddysgu;
22a synnent at ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
23Ac yna yr oedd yn eu synagog ddyn ag ysbryd aflan,
24a gwaeddodd gan ddywedyd, “Beth sydd rhyngom ni a thi Iesu o Nasareth? A ddeuthost i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt — Sant Duw.”
25A cheryddodd yr Iesu ef, “Taw, a dos allan ohono.”
26Ac wedi i’r ysbryd aflan ei ddirdynnu ef, a llefain â llef uchel, aeth allan ohono.
27Ac arswydodd pawb, nes ymholi ohonynt, gan ddywedyd, “Beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd ag awdurdod! Hyd yn oed yr ysbrydion aflan a orchymyn ef, ac ufuddhânt iddo.”
28Ac aeth y sôn amdano allan yn ebrwydd i bobman drwy holl gymdogaeth Galilea.
29Ac yna wedi mynd allan o’r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan.
30A chwegr Simon oedd yn gorwedd mewn twymyn; ac yna dywedant wrtho amdani.
31Ac aeth yntau ati, a chododd hi dan afael yn ei llaw; a gadawodd y dwymyn hi, a gweinyddai hithau arnynt.
32Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, dygent ato’r holl rai cleifion, a’r rhai â chythreuliaid ynddynt;
33ac yr oedd yr holl ddinas wedi ymgasglu wrth y drws.
34Ac fe iachaodd lawer o gleifion dan amrywiol heintiau, a chythreuliaid lawer a fwriodd allan; ac ni adai i’r cythreuliaid lefaru, gan yr adwaenent ef.
35A’r bore yn blygeiniol iawn, cododd, ac aeth allan, ac aeth ymaith i le anghyfannedd, ac yno gweddiai.
36A’i ymlid a wnaeth Simon a’r rhai oedd gydag ef,
37a chael hyd iddo, a dywedyd wrtho, “Pawb a’th gais.”
38A dywed yntau wrthynt, “Awn draw i’r trefydd nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd; canys i hynny y deuthum allan.”
39Ac fe aeth, gan bregethu yn eu synagogau hwynt yn holl Galilea, a chan fwrw allan y cythreuliaid.
40A daw ato un gwahanglwyfus yn erfyn arno, ac yn penlinio, gad ddywedyd wrtho, “Os mynni, gelli fy nglanhau.”
41A chan dosturio estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, ac medd wrtho, “Mynnaf, glanhaer di.”
42Ac yna ymadawodd y gwahanglwyf ag ef, a glanhawyd ef.
43Ac wedi ei chwyrn rybuddio, yn ebrwydd gyrrodd ef allan;
44ac eb ef wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos, dangos dy hun i’r offeiriad,Lef. 13:49, 14:2. ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
45Aeth yntau allan, a dechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r hanes, fel na allai ef mwy fynd yn amlwg i ddinas, eithr allan mewn lleoedd anghyfannedd yr oedd; a deuent ato o bobman.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.