1Ac yr oedd y pasg a gŵyl y bara croyw ymhen deuddydd. A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd trwy ddichell i gael gafael arno, a’i ladd.
2Canys dywedent, “Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.”
3A phan oedd ef ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus yn lledorwedd i fwyta, fe ddaeth gwraig a chanddi flwch o ennaint nard pur drudfawr, a thorri’r blwch, a’i dywallt ar ei ben ef.
4Ond yr oedd rhai yn ddigllon yn eu plith eu hunain, “I ba beth y bu’r golled hon o’r ennaint?
5Canys gallasid gwerthu’r ennaint hwn am fwy na thri chan swllt, a’u rhoi i’r tlodion.” A chwyrnent arni.
6Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch iddi. Paham y perwch flinder iddi? Gweithred hardd a wnaeth hi arnaf fi.
7Canys bob amser y mae gennych y tlodion gyda chwi, a phan fynnoch gellwch wneuthur daioni iddynt hwy; ond myfi, nid oes gennych monof bob amser.
8A allodd hi, a wnaeth; hi achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth.
9Ac yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr efengyl yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er cof amdani.”
10Ac Iwdas Iscariot, yn un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid i’w fradychu ef iddynt.
11Hwythau pan glywsant, bu lawen ganddynt; ac addawsant roi arian iddo. A cheisiai yntau pa fodd y câi gyfle i’w fradychu.
12A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan laddent oen y pasg, fe ddywed ei ddisgyblion wrtho, “Pa le y mynni i ni fynd i baratoi i ti i fwyta’r pasg?”
13Ac fe enfyn ddau o’i ddisgyblion, ac eb ef wrthynt, “Ewch i’r ddinas, ac fe gyferfydd â chwi ddyn yn cario ystên o ddŵr; dilynwch ef,
14a pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ fod yr Athro’n dywedyd, ‘Pa le mae fy llety lle bwytawyf y pasg gyda’m disgyblion?’
15A dengys ef i chwi lofft fawr wedi ei threfnu’n barod; ac yno paratowch i ni.”
16Ac aeth y disgyblion ymaith, a deuthant i’r ddinas, a chawsant fel y dywedasai ef wrthynt, a pharatoesant y pasg.
17Ac wedi iddi hwyrhau fe ddaw yntau gyda’r deuddeg.
18Ac â hwynt yn lledorwedd ac yn bwyta, dywedodd yr Iesu, “Yn wir meddaf i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i — un sy’n bwyta gyda mi.”
ddysgl.21Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano; ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai iddo pe na anesid y dyn hwnnw.”
22Ac wrth iddynt fwyta, fe gymerth fara, ac wedi bendithio, torrodd ef, a rhoddes iddynt; a dywedodd, “Cymerwch; hwn yw fy nghorff.”
23Ac fe gymerth gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddes iddynt, ac yfasant bawb ohono.
24Ac fe ddywedodd wrthynt, “Hwn yw fy ngwaed cyfamod,
; daeth yr awr; dyma fradychu Mab y dyn i ddwylo’r pechaduriaid.42Codwch, awn; dyma fy mradychwr yn ymyl.”
43Ac yn y fan, ac ef eto’n llefaru, ymddengys Iwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa â chleddyfau a ffyn, oddiwrth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.
44A rhoesai ei fradychwr arwydd iddynt, gan ddywedyd, “Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymaith yn ddiogel.”
45Ac fe ddaeth, ac yn y fan aeth ato, ac eb ef, “Rabbi,” ac fe’i cusanodd ef.
46Rhoesant hwythau eu dwylo arno, a gafaelasant ynddo.
47Ond rhywun o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw a dynnodd ei gleddyf ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorres ymaith ei glust ef.
48Ac atebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Ai fel at leidr y deuthoch allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal?
49Beunydd yr oeddwn yn eich plith yn y deml yn dysgu, ac ni afaelasoch ynof; eithr cyflawner yr ysgrythyrau.”
50A gadawsant ef, a ffoesant oll.
51Ac yr oedd rhyw ddyn ieuanc yn ei ganlyn ef ag amdano lenllïain ar ei gorff noeth, a gafaelant ynddo;
52gadawodd yntau’r llenllïain, ac yn noeth y ffoes.
53A dygasant yr Iesu at yr archoffeiriad; ac fe ymgynnull yr holl archoffeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion.
54A Phedr o bell a’i dilynodd ef hyd i mewn i neuadd yr archoffeiriad; ac yr oedd yn cydeistedd â’r gwasanaethyddion, ac yn ymdwymo wrth y tân.
55A cheisiai’r archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin dystiolaeth yn ei erbyn i’w roi i farwolaeth, ac nis caent;
56canys llawer a gam-dystiai yn erbyn yr Iesu, ond nid oedd y tystiolaethau’n gyson.
57A chododd rhywrai, a chamdystient yn ei erbyn gan ddywedyd,
58“Clywsom ni ef yn dywedyd, ‘Mi ddymchwelaf y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall nid o waith llaw.’ ”
59Ond felly chwaith nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.
60A chododd yr archoffeiriad yn y canol, a holodd yr Iesu gan ddywedyd, “Onid atebi ddim? Beth a dystia’r rhain i’th erbyn?”
61Tawai yntau, ac nid atebodd ddim. Drachefn holai’r archoffeiriad ef, ac medd wrtho, “Ai ti yw’r Crist, mab y Bendigedig?”
62A dywedodd yr Iesu, “Myfi yw; a chewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod gyda chymylau’r nef.”
Dan. 7:13; Salm 110:1.63A rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, ac eb ef, “Pa raid i ni mwy wrth dystion?
64Chwi glywsoch y cabledd; beth debygwch chwi?” Hwythau oll a roes farn yn ei erbyn ei fod yn haeddu marw.
65A dechreuodd rhai boeri arno, a mygydu ei wyneb, a’i gernodio, a dywedyd wrtho, “Proffwyda!” A’r gwasanaethyddion a’i derbyniodd ef â dyrnodiau.
66Ac â Phedr islaw yn y neuadd fe ddaw un o forynion yr archoffeiriad,
67ac wrth weled Pedr yn ymdwymo, hi edrychodd arno, ac medd hi, “Yr oeddit tithau hefyd gyda’r Nasaread Iesu.”
68Gwadodd yntau, gan ddywedyd, “Ni wn i, ac nid wyf yn deall beth a ddywedi.” Ac fe aeth allan i’r cyntedd;
69a’r forwyn, wrth ei weled ef, a ddechreuodd drachefn ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, “Y mae hwn yn un ohonynt.”
70Yntau drachefn a wadai. Ac ymhen ychydig drachefn, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedai wrth Bedr, “Yn wir, un ohonynt wyt; achos Galilead wyt.”
71Dechreuodd yntau felltithio, a thyngu, “Nid adwaen i mo’r dyn hwn y soniwch amdano.”
72Ac yn y fan canodd y ceiliog yr ail waith. A chofiodd Pedr yr ymadrodd, fel y dywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith y’m gwedi deirgwaith”; ac ymollyngodd i wylo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.