Colosiaid 4 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Chwi feistriaid, rhoddwch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn a thegwch, gan wybod fod gennych chwithau Feistr yn y nefoedd.

2Dyfalbarhewch mewn gweddi, gan wylio ynddi gyda diolchgarwch,

3gan weddïo yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r gair, i lefaru dirgelwch Crist, yr wyf mewn rhwymau o’i blegid,

4fel yr eglurwyf ef megis y dylwn ei lefaru.

5Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynu yr amser.

6Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, er mwyn i chwi wybod pa fodd y dylech ateb pob rhyw un.

7Fy holl hynt a hysbysa Tychicus i chwi, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon a’r cyd-was yn yr Arglwydd,

8a anfonais atoch yn un swydd er mwyn i chwi wybod ein helynt ac iddo gysuro eich calonnau chwi,

9gydag Onesimus, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy’n un ohonoch, chwi. Hysbysant hwy i chwi bob peth sy’n digwydd yma.

10Y mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn eich cyfarch a Marc cefnder Barnabas (y derbyniasoch orchmynion yn ei gylch — os daw atoch, derbyniwch ef),

11a Jesus a elwir Justus; o’r enwaediad y rhai hyn yn unig sy’n gyd-weithwyr â mi i deyrnas Dduw, a’r sawl a fu’n gysur i mi.

12Y mae Epaffras, un ohonoch, gwas Crist Iesu, yn eich cyfarch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau ar sefyll ohonoch yn berffaith ac wedi eich llawn sicrhau ym mhob peth a ewyllysio Duw.

13Canys tystiaf amdano fod ganddo fawr ofal drosoch chwi a thros bobl Laodicea a phobl Hierapolis.

14Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas, yn eich cyfarch.

15Cyferchwch y brodyr yn Laodicea, a Nymffa a’r eglwys yn ei thŷ.

16Ac wedi darllen y llythyr hwn yn eich plith, perwch hefyd ei ddarllen yn eglwys y Laodiceaid, a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.

17A dywedwch wrth Archippus, Dyro sylw i’r weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, i’w chyflawni hi.

18Y mae’r cyfarchiad yn fy llaw fy hun, Paul. Cofiwch, fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help