1Ac edrychais pan agorodd yr Oen un o’r saith sêl, a chlywais un o’r pedwar peth byw yn dywedyd â llais megis taran: Tyred.
2Ac edrychais, ac wele farch gwyn, a chan yr hwn a eisteddai arno yr oedd bwa, a rhoddwyd iddo goron, ac aeth allan yn gorchfygu ac i orchfygu.
3A phan agorodd yr ail sêl, clywais yr ail beth byw yn dywedyd: Tyred.
4Ac aeth allan farch arall, un coch, ac i’r hwn a eisteddai arno y rhoddwyd dwyn ymaith heddwch o’r ddaear a lladd ei gilydd, a rhoddwyd iddo gleddau mawr.
5A phan agorodd y drydedd sêl, clywais y trydydd peth byw yn dywedyd: Tyred. Ac edrychais, ac wele farch du, a chan yr hwn a eisteddai arno yr oedd clorian yn ei law.
6A chlywais megis llais ynghanol y pedwar peth byw yn dywedyd: Chwart o wenith am swllt, a thri chwart o haidd am swllt; a’r olew a’r gwin na niweidia.
7A phan agorodd y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd peth byw yn dywedyd: Tyred.
8Ac edrychais, ac wele farch gwelw-las, a’r hwn a eisteddai arno, ei enw oedd Angau, ac Annwn oedd yn canlyn gydag ef, a rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddau ac â newyn ac â marwolaeth a chan fwystfilod y ddaear.
9A phan agorodd y bumed sêl, gwelais dan yr allor eneidiau y rhai a laddesid o achos gair Duw ac o achos y dystiolaeth a ddygent.
10A gwaeddasant â llais uchel gan ddywedyd: Pa hyd, O Deyrn sanctaidd a chywir, y byddi heb farnu a dial ein gwaed ni ar y sawl a breswylia ar y ddaear?
11A rhoddwyd iddynt bob un fantell wen, a dywedwyd wrthynt am orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid nifer eu cyd-weision hefyd, a’u brodyr y rhai oedd i’w lladd fel hwythau.
12Ac edrychais pan agorodd y chweched sêl, a bu daeargryn mawr, ac aeth yr haul yn ddu fel sachliain o flew, ac aeth y lleuad i gyd fel gwaed,
13a syrthiodd sêr y nen i’r ddaear fel y bwrw ffigysbren ei ffigys gleision pan ysgydwer ef gan wynt mawr,
14ac ysgubwyd y nen ymaith fel plygu rhol, a symudwyd pob mynydd ac ynys o’u lle.
15A brenhinoedd y ddaear a’r mawrion a’r cadfridogion a’r cyfoethogion a’r cryfion a phob gŵr caeth a rhydd, ymguddiasant yn yr ogofâu ac yng nghreigiau’r mynyddoedd,
16a dywedyd wrth y mynyddoedd a’r creigiau: Syrthiwch arnom a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac oddi wrth ddicter yr Oen,
17canys daeth dydd mawr eu dicter hwy, a phwy a ddichon sefyll?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.