1Eithr llefara di yr hyn sydd yn gweddu i ddysgeidiaeth iach:
2i’r hynafgwyr fod yn sobr, yn urddasol, yn bwyllog, yn iach yn eu ffydd, eu cariad, a’u hymgynnal.
3Rhaid i’r hynafwragedd yr un modd fod yn barchedig eu hymarweddiad, nid yn enllibus, nid chwaith yn gaeth i flys gwin, yn ddyrchafol eu haddysgiadau,
4fel y disgyblont y gwragedd ieuainc i garu eu gwŷr a’u plant,
5i fod yn synhwyrol, yn bur, yn deuluaidd, yn dda, yn ymostwng i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.
6Yr un modd annog y gwŷr ieuainc i fod yn bwyllog.
7Ym mhob peth dangos dy hun yn batrwm mewn gweithredoedd da, yn ddilwgr dy ddysgeidiaeth, yn urddasol,
8a’th neges yn iach ac uwchlaw beirniadaeth, fel y cywilyddier y gwrthwynebydd ac na byddo ganddo ddim bychanus i’w ddywedyd amdanom.
9Y gweision hefyd ymostyngent i’w meistriaid, i ryngu bodd ym mhopeth iddynt,
10heb eu hateb yn ôl na chwiwladrata, eithr o ewyllys da yn eu profi eu hunain yn gwbl ffyddlon, fel yr addurnont ym mhopeth ddysgeidiaeth Duw ein Hiachawdwr.
11Canys torrodd gwawr gras achubol Duw ar ddynion oll,
12gan ein cyfarwyddo, fel, trwy ymwadu ag annuwiaeth a nwydau bydol, y byddom fyw yn syber, yn gyfiawn ac yn dduwiol yn y byd presennol,
13gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig ac ymddangosiad y Duw mawr a’n Hiachawdwr Crist Iesu,
14yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom i’n rhyddhau ni o bob anghyfraith, a’n puro iddo’i hun yn bobl briod, eiddgar i weithredoedd da.
15Y pethau hyn llefara; annog hefyd ac argyhoedda â phob awdurdod; na chaffed neb dy ddiystyru.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.