1Cynifer ag sydd gaethweision tan iau, cyfrifent hwy eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw na’r ddysgeidiaeth.
2Ac nac aed y rhai y mae ganddynt gredinwyr o feistriaid yn eofn arnynt, am eu bod yn frodyr, eithr rhoddent wasanaeth rhagorach, am fod y rhai sy’n cyfranogi o’u rhagorwaith yn gredinwyr ac anwyliaid. Y pethau hyn, addysga ac annog.
3Os addysga neb ddim dieithr, heb gytuno â geiriau iach ein Harglwydd Iesu Grist a’r ddysgeidiaeth sydd yn ôl duwioldeb,
4chwyddedig yw ef heb ddeall dim, ond dan glefyd holi cwestiynau a dadlau; hyn sy’n peri cenfigen, ymryson, enllibau, drwgdybiau anfad, a chroesdynnu parhaus
5dynion dirywiedig eu meddwl ac amddifad o’r gwirionedd, sydd yn tybied mai elw yw duwioldeb.
6Ond elw mawr yw duwioldeb, a bod yn fodlon;
7canys ni ddygasom ddim i’r byd, ac yn wir, ni allwn chwaith ddwyn dim allan ohono.
8Ond a chennym gynhaliaeth a chlydwch, ar hyn ymfodlonwn.
9Eithr y rhai a chwennych fod yn gyfoethog, syrthiant i brofedigaeth a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, sy’n soddi dynion i ddistryw a cholledigaeth.
10Canys gwreiddyn i’r drygau oll ydyw ariangarwch, a rhai yn chwannog i hyn, crwydrasant oddi wrth y ffydd a’u gwanu eu hunain ag ingoedd lawer.
11Eithr tydi, ŵr Duw, ffo rhag y rhain, a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffyddlondeb, cariad, dioddefgarwch, addfwynder.
12Dal i ymdrechu rhagorol ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i hwn y’th alwyd ac y dygaist dy gyffes aruchel yngŵydd tystion lawer.
13Rhybuddiaf di yngŵydd Duw a rydd fywyd i bopeth, a Christ Iesu a dystiodd o flaen Pontius Pilat ei gyffes odidog,
14i gadw dy gomisiwn yn ddiystaen a diargyhoedd hyd amlygiad ein Harglwydd Iesu Grist;
15hyn mewn iawn bryd a arddengys ef, y bendigaid a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi.
16Ef yn unig biau anfarwoldeb; ei gyfannedd yw’r goleuni na ellir nesáu ato, nas gwelodd un dyn, ac na all chwaith ei weled. Iddo ef y bo anrhydedd a gallu yn oes oesoedd, Amen.
17Y rhai sydd gyfoethog yn y byd presennol, rhybuddia na bônt uchelfryd, na gosod chwaith eu gobaith ar ansicrwydd golud, eithr yn hytrach ar Dduw, sydd yn darpar yn gyfoethog bopeth inni i’w mwynhau;
18gwneuthur daioni, bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael a pharod i rannu,
19gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn y dyfodol, fel y cymerant afael ar y bywyd sydd yn fywyd yn wir.
20O Timotheus, gwarchod dy adnau, gan droi oddi wrth anghysegredig wâg siaradach a chroes-ddweud y wybodaeth a gamenwir felly;
21wrth broffesu hon collodd rhai eu gafael ar y ffydd. Gras fyddo gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.