1Yn awr, ffydd yw sicrhad pethau a obeithir ac argyhoeddiad o bethau ni welir.
2Canys ar ei phwys hi y dygwyd tystiolaeth i’r hen saint.
3Trwy ffydd, yr ydym yn deall lunio’r cyfanfyd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweladwy y mae’r peth a welir wedi dyfod.
4Trwy ffydd yr aberthodd Abel i Dduw amgen offrwm na Chaen, a thrwy hon y dygwyd tystiolaeth iddo ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu ar bwys ei roddion; a thrwy hon, y mae ef, wedi marw, yn llefaru eto.
5Trwy ffydd y symudwyd Enoch fel na welodd angau, ac nis caed ef am fod Duw wedi ei symud, canys cyn ei symudiad y mae tystiolaeth amdano ddarfod iddo ryngu bodd Duw;
6a heb ffydd amhosibl rhyngu bodd. Canys rhaid i’r neb a nesao at Dduw gredu ei fod a’i fod yn dalwr i’r rhai sy’n ei geisio.
7Trwy ffydd yr adeiladodd Noa, mewn parchedig ofn, arch er achub ei dŷ, ar ôl cael datguddiad am y pethau a oedd eto’n anweledig, a thrwyddi hi y rhoes gondemniad ar y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder sydd yn ôl ffydd.
8Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham pan alwyd ef i fyned allan i le yr oedd i’w dderbyn yn etifeddiaeth, ac allan yr aeth heb wybod i ba le yr oedd yn myned.
9Trwy ffydd y tariodd yn nhir yr addewid fel mewn tir estron, a thrigo mewn pebyll, gydag Isaac a Jacob, cyd-etifeddion yr un addewid.
10Canys disgwyl yr oedd am y ddinas y mae iddi sylfeini, a Duw yn gynllunnydd ac yn saer iddi.
11Trwy ffydd y cafodd Sara hithau nerth i ymddŵyn wedi derbyn yr had, ac yn groes i adeg ei hoedran, am ei bod wedi barnu’n ffyddlon yr hwn a addawodd.
12Am hynny hefyd y cenhedlwyd o un yn unig, a hynny o ddyn cystal â marw, megis sêr y nef mewn amlder ac fel y tywod ar lan y môr sydd yn aneirif.
13Yn ôl ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb feddiannu’r addewidion, ond eu gweled o bell a’u croesawu, a chyffesu mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear.
14Canys y mae’r rhai sy’n dywedyd fel hyn yn dangos mai cartref a geisiant.
15A bid sicr, pe buasent yn meddwl am y wlad y daethent allan ohoni, buasai ganddynt amser i ddychwelyd;
16ond, yn wir, am wlad well y maent yn ymestyn, hynny yw, un nefol. Am hyn nid oes ar Dduw gywilydd ohonynt, chael ei alw yn Dduw iddynt, canys paratoes iddynt ddinas.
17Trwy ffydd y cawn i Abraham ddwyn Isaac yn offrwm pan oedd yn cael ei brofi; ie, ei uniganedig a ddug y gŵr a dderbyniasai’r addewidion
18ac y dywedwyd wrtho mai “yn Isaac y bydd i ti had ar d’enw,”
19wedi iddo gyfrif bod Duw yn abl i godi hyd yn oed o feirw; ac yn wir, mewn ffigur, oddi yno y derbyniodd ef yn ôl.
20Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau hefyd am bethau i ddyfod.
21Trwy ffydd y bendithiodd Jacob ar ei wely angau feibion Joseff bob un, ac yr ymgrymodd ar ben ei ffon.
22Trwy ffydd y coffaodd Joseff yn ei ddiwedd am fynediad meibion Israel allan, ac y rhoddodd orchymyn ynghylch ei esgyrn.
23Trwy ffydd, pan aned Moses, y cuddiwyd ef am dri mis gan ei rieni oherwydd iddynt weled y plentyn yn dlws, ac nid ofnasant orchymyn y brenin.
24Trwy ffydd, wedi iddo ddyfod yn fawr, y gwrthododd Moses ei alw yn fab merch Pharo,
25gan ddewis yn hytrach oddef ei gam-drin ynghwmni pobl Dduw na chael mwynhad pechod dros dro,
26am iddo gyfrif gwaradwydd yr Eneiniog yn fwy golud na thrysorau’r Aifft; canys draw ar y daledigaeth yr oedd ei olwg.
27Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, nid am ei fod wedi ofni llid y brenin; canys fel un yn gweled yr anweledig y bu’n ddiysgog.
28Trwy ffydd y cawn iddo gadw y Pasg a thaenelliad y gwaed, rhag i’r hwn a oedd yn dinistrio’r cyntafanedig gyffwrdd â hwynt.
29Trwy ffydd yr aethant trwy’r Môr Coch fel drwy dir sych, ond pan wnaeth yr Eifftiaid gynnig arno, llyncwyd hwy yn llwyr.
30Trwy ffydd y cwympodd caerau Jericho ar ôl eu hamgylchu am saith niwrnod.
31Trwy ffydd ni chollwyd Rahab y butain gyda’r rhai a fu anufudd, am dderbyn ohoni yr ysbïwyr mewn heddwch.
32A beth a ddywedaf ymhellach? Canys fe ballai amser i mi adrodd am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, a Samuel, a’r proffwydi,
33y rhai drwy ffydd a loriodd deyrnasoedd, a weithredodd gyfiawnder, a gafodd afael ar addewidion, a gaeodd safnau llewod,
34a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gedyrn mewn rhyfel, a yrrodd ar ffo rengau estroniaid;
35cafodd gwragedd eu meirw drwy atgyfodiad; arteithiwyd eraill ar yr olwyn, wedi iddynt wrthod derbyn y ddihangfa, fel y caffent well atgyfodiad.
36Cafodd eraill brofiad o’u gwatwar a’u fflangellu, ie, o gadwynau a charchar;
37llabyddiwyd hwy, cystuddiwyd hwy, llifiwyd hwy, lladdwyd hwy â lladdedigaeth y cleddyf, buont o fan i fan mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, yn adfydus, dan gamdriniaeth, —
38dynion nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn diffeithleoedd a mynyddoedd ac ogofeydd a thyllau’r ddaear.
39A’r rhain oll, er iddynt ennill tystiolaeth amdanynt drwy eu ffydd, ni chawsant yr addewid,
40gan fod Duw wedi darpar rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel hebom ni na pherffeithid hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.