1Ac aeth yr Iesu allan o’r deml a mynd i’w ffordd, a daeth ei ddisgyblion ato i ddangos iddo adeiladau’r deml.
2Atebodd yntau iddynt, “Oni welwch chwi’r pethau hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma faen ar faen heb ei ddymchwel.”
3A phan oedd yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, daeth y disgyblion ato o’r neilltu a dywedyd, “Dywed wrthym, pa bryd y bydd y pethau hyn? A beth fydd yr arwydd o’th ddyfodiad ac o derfyniad yr oes?”
4Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Edrychwch na thwyllo neb chwi.
5Canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd, ‘Myfi yw’r Crist,’ a thwyllant laweroedd.
6A chewch glywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gwelwch na’ch cythrybler; canys rhaid eu dyfod, eithr nid yw’r diwedd eto.
7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd newynau a daeargrynfâu mewn amryw leoedd;
8dechrau gwewyr fydd hyn oll.
9Yna traddodant chwi i’ch cystuddio a lladdant chwi, a byddwch gas gan yr holl genhedloedd oherwydd fy enw i.
10Ac yna tramgwyddir llawer a bradychant ei gilydd a chasáu ei gilydd;
11a chyfyd gau broffwydi lawer a thwyllant laweroedd;
12ac oherwydd i anghyfraith amlhau, fe oera cariad y lliaws.
13Ond y neb a ymgynnal i’r pen, hwnnw a gedwir.
14A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas trwy’r byd cyfan er tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna daw y diwedd.
15Pan weloch, ynteu, ffieiddbeth y difrod, y dywedwyd amdano trwy Ddaniel y proffwyd, yn sefyll mewn lle santaidd, (a ddarlleno, ystyried),
16yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd;
17y dyn ar nen y tŷ, na ddisgynned i gyrchu’r pethau a fo yn ei dŷ,
18a’r dyn yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gyrchu ei fantell.
19Ond gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny!
20A gweddïwch na ddelo’ch ffoedigaeth yn y gaeaf nac ar y Sabbath;
21canys bydd y pryd hwnnw galedi mawr na bu ei fath o ddechrau’r byd hyd yn awr, na chwaith ni bydd byth.
22Ac oni bai gwtogi’r dyddiau hynny, nid achubesid un cnawd; eithr er mwyn yr etholedigion cwtogwyd y dyddiau hynny.
23Y pryd hwnnw os dywed neb wrthych, ‘Dyma’r Crist,’ neu ‘Yma,’ na chredwch;
24canys cyfyd gau-gristiau a gau-broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau, nes twyllo, pe gellid, hyd yn oed yr etholedigion;
25dyma fi wedi rhagfynegi i chwi.
26Os dywedant wrthych, ynteu, ‘Dyma fo yn y diffeithwch,’ nac ewch allan; ‘Dyma fo yn yr ystafelloedd,’ na chredwch.
27Canys fel y mae’r fellten yn dyfod allan o’r dwyrain ac yn tywynnu hyd y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn;
28lle bynnag y bo’r gelain, yno yr ymgasgl y fwlturiaid.
29Ac yn union wedi caledi’r dyddiau hynny yr haul a dywyllir, a’r lloer ni rydd ei llewyrch, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau’r ddaear, ac y gwelant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau’r nef gyda gallu a gogoniant mawr;
31ac fe enfyn ei angylion ag utgorn mawr, a chynullant ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o gyrrau’r nefoedd bwygilydd.
32Oddi wrth y ffigysbren dysgwch ei ddameg; wedi’r êl ei gangen weithian yn ir, a’r dail yn tarddu, chwi wyddoch fod yr haf yn agos;
33felly chwithau, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drws.
34Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni ddigwyddo hyn oll.
35Y nef a’r ddaear ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
36Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nefoedd na’r Mab, ond y Tad yn unig.
37Canys fel y bu dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn;
38canys fel yr oeddent yn y dyddiau hynny cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Nöe i mewn i’r arch,
39ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw a’u cipio hwynt oll, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn.
40Y pryd hwnnw bydd dau yn y maes, un a gymerir ac un a adewir;
41dwy yn malu yn y felin, un a gymerir ac un a adewir.
42Byddwch effro, ynteu, am na wyddoch pa ddiwrnod y mae eich Arglwydd yn dyfod.
43Ond gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, buasai’n effro ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd.
44Am hynny byddwch chwithau barod, canys yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45Pwy, tybed, yw’r gwas ffyddlon a chall, a osododd yr arglwydd dros ei deulu i roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd?
46Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, y caiff ei arglwydd, pan ddêl, ei fod yn gwneuthur felly;
47yn wir meddaf i chwi, fei gesyd ef dros ei holl eiddo.
48Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi,’
49a dechrau curo’i gyd-weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon,
50fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddiwrnod nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod,
51a’i dorri’n ddau, a’i gyfrif gyda’r rhagrithwyr; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.