1Parhaed eich brawdgarwch,
2eich lletygarwch nac anghofiwch; canys trwy hyn y croesawodd rhywrai angylion heb wybod.
3Deliwch i gofio am y carcharorion fel pe baech yng ngharchar gyda hwy, y rhai a gamdrinir gan eich bod chwithau hefyd mewn corff o gnawd.
4Bydded priodas mewn anrhydedd gan bawb, a’r gwely yn ddihalog, canys puteinwyr a godinebwyr a farn Duw.
5Bydded eich bryd yn ddiariangar, gan fod yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Canys dywedodd ef, “Ni’th ollyngaf ddim ac ni chefnaf arnat,”
6ac am hynny y dywedwn yn galonnog,
“Yr Arglwydd yw fy nghymorth, nid ofnaf;
Beth a all dyn ei wneuthur imi?”
7Cedwch mewn cof eich arweinwyr a lefarodd wrthych air Duw; gan syllu ar ddiwedd eu hymarweddiad hwynt, efelychwch eu ffydd.
8Iesu Grist ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd.
9Na chamarweinier chwi gan athrawiaethau amryliw a dieithr. Canys da yw bod y galon wedi ei chadarnhau â gras, nid â bwydydd na fuont ddim llesâd i’r rhai a oedd yn ymarfer â hwynt.
10Y mae gennym allor nad oes gan y rhai sy’n gwasanaethu’r tabernacl hawl i fwyta ohoni.
11Canys yr anifeiliaid y dygir eu gwaed dros bechod i’r cysegr drwy law’r archoffeiriad, llosgir cyrff y rhai hynny tu allan i’r gwersyll.
12Gan hynny, tu allan i’r porth y dioddefodd Iesu hefyd fel y santeiddiai’r bobl drwy ei waed ei hun.
13Am hynny, awn allan ato ef tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei sarhad.
14Canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, ond yr un a ddaw yr ydym yn ei cheisio.
15Trwyddo ef, gan hynny, offrymwn aberth moliant yn wastad i Dduw, hynny yw ffrwyth gwefusau yn arddel ei enw ef.
16Ond na fyddwch anghofus o gymwynas a chyfrannu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
17Byddwch ufudd i’ch arweinwyr ac ymostyngwch iddynt, canys y maent hwy yn effro i wylio dros eich eneidiau chwi fel rhai sydd i roddi cyfrif, fel y caffont wneuthur hyn. mewn llawenydd ac nid dan duchan; canys di-fudd i chwi yw hynny.
18Gweddïwch drosom: canys yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod dda, a ni’n dymuno byw’n onest ym mhopeth.
19Yr wyf yn daerach fyth yn eich annog i wneuthur hyn er mwyn fy adfer atoch yn gynt.
20Duw’r tangnefedd a ddug o’r meirw fugail mawr y defaid drwy waed y cyfamod tragwyddol, ein Harglwydd Iesu,
21a’ch cyflanwo â phopeth da er gwneuthur ei ewyllys ef, gan gynhyrchu ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo ef trwy Iesu Grist; i’r hwn boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
22Yr wyf yn deisyfu arnoch, frodyr, goddefwch air yr anogaeth hon, canys mewn byr eiriau yr anfonais lythyr atoch.
23Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau; os daw yn weddol fuan, gwelaf chwi gydag ef.
24Cyferchwch eich holl arweinwyr a’r holl saint. Y mae gwŷr yr Eidal yn eich cyfarch.
25Gras a fo gyda chwi oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.