1Yna arweiniwyd yr Iesu i’r diffeithwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan y diafol.
2Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, wedi hynny daeth arno newyn.
3A daeth y temtiwr ato, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, dywed am i’r cerrig hyn droi’n fara.”
4Atebodd yntau, “Ysgrifennwyd, Nid ar fara’n unig y bydd byw dyn, eithr ar bob gair a ddaw allan o enau Duw.”
5Yna cymer y diafol ef i’r ddinas santaidd, a’i osod ar ganllaw’r deml,
6ac medd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd,
I’w angylion y gorchymyn ef amdanat,
ac ar eu dwylo y’th ddaliant,
rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.”
7Meddai’r Iesu wrtho, “Drachefn ysgrifennwyd, Na themtia’r Arglwydd dy Dduw.”
8Drachefn cymer y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dengys iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant;
9a dywedodd wrtho, “Hyn oll a roddaf i ti os syrthi ac ymgrymu i mi.”
10Yna dywed yr Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi.”
11Yna ymedy’r diafol ag ef; ac wele angylion yn dyfod ato, ac yn gweini arno.
12A phan glywodd fod Ioan wedi ei draddodi, fe giliodd i Galilea.
13Ac ymadawodd â Nasara, ac aeth i gartrefu yng Nghapernaum, yr arfordref yng ngororau Sabwlon a Nephthalim,
14fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd,
15 Tir Sabwlon a thir Nephthalim,
tua’r môr, tu hwnt i’r Iorddonen,
Galilea’r cenhedloedd,
16 Y bobl a oedd yn eistedd mewn tywyllwch,
goleuni mawr a welsant;
ie’r rhai’n eistedd ym mro a chysgod angau,
goleuni a wawriodd arnynt.
17O hynny allan dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, “Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.”
18Ac wrth rodio ger môr Galilea fe welodd ddau frawd, Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd ef, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt.
19Ac eb ef wrthynt, “Dowch ar fy ôl i, a gwnaf chwi’n bysgodwyr dynion.”
20Yn y fan, gadawsant hwythau eu rhwydau a’i ddilyn ef.
21Ac wedi mynd rhagddo oddi yno fe welodd ddau frawd eraill, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, yn y llong gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio’u rhwydau; a galwodd hwynt.
22Yn y fan gadawsant hwythau’r llong a’u tad, a’i ddilyn ef.
23Ac âi o amgylch trwy Galilea oll, dan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd ymhlith y bobl.
24Ac aeth y sôn amdano drwy holl Syria; a dygasant ato’r holl gleifion a oedd yng ngafael amrywiol glefydau ac arteithiau, cythreuligion a lloerigion a pharlysedigion; ac iachaodd hwynt.
25A chanlynodd tyrfaoedd mawr ef o Galilea a Decapolis a Chaersalem ac Iwdea a thu hwnt i’r Iorddonen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.