1Pawl, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimotheus y brawd at eglwys Dduw y sydd yng Nghorinth ynghyda’r saint oll sydd yn Achaia i gyd.
2Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y trugareddau a Duw pob diddanwch,
4sy’n ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r neb a fo ym mhob rhyw orthrymder drwy’r diddanwch y’n diddanwyd ni ein hunain ag ef gan Dduw.
5Canys megis y daw dioddefiadau Crist yn helaeth i’n rhan, felly hefyd trwy Grist y mae ein diddanwch yn helaeth.
6Os ydym, ar y naill law, mewn gorthrymder, er mwyn eich diddanwch a’ch iachawdwriaeth chwi y mae hynny; ond os ydym, ar y llaw arall, yn cael ein diddanu, y mae hynny hefyd er mwyn eich diddanwch chwi, sy’n gweithredu mewn amynedd o dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ninnau yn eu dioddef.
7Ac y mae ein gobaith amdanoch yn gadarn gan ein bod yn gwybod mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly hefyd yr ydych o’r diddanwch.
8Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, parthed y gorthrymder a ddaeth i’n rhan yn Asia, mai dros fesur a thu hwnt i’n gallu y’n llethwyd nes anobeithio ohonom hyd yn oed gael byw.
9Eithr nyni ein hunain a gawsom ynom ein hunain ddedfryd angau, fel na byddem â’n hymddiried ynom ein hunain ond yn hytrach yn Nuw, cyfodwr y meirw.
10Ef a’n gwaredodd o’r gyfryw farwolaeth ac a’n gweryd. Ynddo ef y gosodasom ein gobaith y bydd iddo eto ein gwaredu rhagllaw,
11a chwithau hefyd yn cydweithio o’n plaid drwy weddi, fel gan lawer o bersonau y diolcher drosom gan lawer am y gymwynas rasol a ddaeth i’n rhan.
12Canys hyn yw ein hymffrost ni — tystiolaeth ein cydwybod mai yn sancteiddrwydd a didwylledd Duw, nid mewn doethineb cnawdol ond yng ngras Duw y rhodiasom yn y byd, ac yn arbennig felly yn ein perthynas â chwi.
13Canys nid ydym yn ysgrifennu pethau amgen atoch nag a ddarllenwch ac a ddeellwch. Gobeithiaf hefyd y deellwch hyd yr eithaf,
14megis hefyd y’n deallasoch ni’n rhannol, mai testun ymffrost i chwi ydym megis hefyd yr ydych chwithau i ni yn nydd ein Harglwydd Iesu.
15Ac yn hyn o hyder y bwriadwn i ddyfod atoch chwi yn gyntaf fel y caffech, ail fendith,
16a myned drwy eich mysg i Facedonia a dyfod drachefn o Facedonia atoch chwi a chael fy hebrwng gennych chwi i Iwdea.
17Wrth lunio’r bwriad hwn ai arfer gwamalrwydd a wneuthum wedi’r cwbl, tybed? Ai yn ôl y cnawd, tybed, y bwriedir yr hyn a fwriadaf, fel y bo Ie Ie a Nage Nage ger fy mron?
18Fel mai ffyddlon yw Duw nid yw ein hymadrodd ni yn ei berthynas â chwi yn Ie ac yn Nage.
19Canys mab Duw, Crist Iesu, a bregethwyd yn eich plith gennym ni — gennyf i a Silfanws a Thimotheus — nid Ie a Nage ydoedd eithr Ie a ddaeth ynddo ef.
20Canys pa gynifer bynnag yw addewidion Duw, ynddo ef y mae’r Ie iddynt. Am hynny drwyddo ef hefyd y mae’r Amen er gogoniant i Dduw drwom ni.
21Yr hwn sy’n ein cadarnhau ni gyda chwi i Grist ac a’n heneiniodd yw Duw.
22Ef hefyd a’n seliodd ac a roddes yr Ysbryd yn ernes yn ein calonnau.
23Yr wyf yn galw Duw yn dyst yn erbyn fy enaid mai er mwyn eich arbed chwi y peidiais hyd yma â dyfod i Gorinth.
24Nid ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd, yn hytrach cyd-hyrwyddwyr eich gorfoledd ydym. Canys yr ydych wedi eich sefydlu yn y ffydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.