1A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel, a chanddynt y saith bla, y rhai diwethaf, oblegid ynddynt y cyflawnwyd digofaint Duw.
2A gwelais megis môr gwydr cymysgedig â thân, a’r rhai a fuddugoliaethai ar y bwystfil ac ar ei ddelw ac ar rif ei enw yn sefyll ar y môr gwydr, a chanddynt delynau Duw.
3A chanant gân Moses gwas Duw a chân yr Oen, gan ddywedyd:
Mawr a rhyfeddol dy weithredoedd, Arglwydd Dduw hollalluog; cyfiawn a gwir dy ffyrdd, Frenin y cenhedloedd;
4pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Canys ti’n unig sydd sanctaidd, a daw’r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oblegid gwnaethpwyd yn amlwg dy gyfiawnderau.
5Ac ar ôl hyn edrychais, ac agorwyd cysegr pabell y dystiolaeth yn y nef,
6a daeth allan o’r cysegr y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt, wedi eu gwisgo â lliain glân disglair ac amgylch-wregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.
7Ac un o’r pedwar peth byw a roes i’r saith angel saith ffiol aur yn llawn o lid Duw y sydd yn byw yn oes oesoedd.
8A llanwyd y cysegr â mwg o ogoniant Duw ac o’i nerth ef, ac ni allai neb fyned i mewn i’r cysegr hyd oni chyflawnid saith bla’r saith angel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.