1“Ar fy ngwir, meddaf, i chwi, yr hwn nid yw’n dyfod i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid ond sydd yn dringo drosodd ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw hwnnw,
2ond yr hwn sy’n dyfod i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw.
3I hwn yr egyr y porthor, a gwrendy’r defaid ar ei lais ef, a geilw ef ei ddefaid ei hunan wrth eu henw a thywys hwy allan.
4Pan dry ei holl ddefaid ei hun allan, y mae’n cerdded o’u blaen ac y mae’r defaid yn ei ddilyn am eu bod yn adnabod ei lais.
5Ond byth ni ddilynant ddieithryn, ond dihangant oddiwrtho, am nad adwaenant lais dieithriaid.”
6Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt, ond ni wyddent hwy beth oedd yr hyn a ddywedai wrthynt.
7Felly, dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid.
8Pawb a ddaeth o’m blaen i, lladron ydynt ac ysbeilwyr, ond ni wrandawodd y defaid arnynt.
9Myfi yw’r drws; os daw neb i mewn drwof i, bydd yn ddiogel, ac â i mewn ac allan a chaiff borfa.
10Nid yw’r lleidr yn dyfod ond i ladrata a lladd a difetha. Ond deuthum i er mwyn iddynt gael bywyd a’i gael yn helaethach.
11Myfi yw’r bugail da; y mae’r bugail da yn rhoddi ei fywyd dros y defaid.
12Ond y gwas cyflog, nad yw’n fugail, ac nad yw’r defaid yn eiddo iddo ef ei hunan, — y mae hwn yn gweled y blaidd yn dyfod ac yn gadael y defaid ac yn dianc, ac y mae’r blaidd yn eu llarpio a’u tarfu —
13am mai gwas cyflog ydyw, ac nad yw’n hidio am y defaid.
14Myfi yw’r bugail da, ac yr wyf yn adnabod fy nefaid fy hun, ac y mae fy nefaid yn fy adnabod i,
15fel y mae’r tad yn fy adnabod i a minnau’n adnabod y tad, ac yr ydwyf yn rhoddi fy mywyd dros y defaid.
16A defaid eraill sydd gennyf nad ydynt o’r gorlan hon, a’r rheiny hefyd y mae’n rhaid i mi eu cyrchu, a gwrandawant ar fy llais, a bydd un ddiadell, un bugail.
17Am hyn y mae fy nhad yn fy ngharu i am fy mod yn rhoddi fy mywyd, fel y caffwyf ef yn ôl.
18Ni chymerth neb ef oddiarnaf, ond yr wyf i yn ei roddi ef ohonof fy hun. Y mae gennyf hawl i’w roddi, ac y mae gennyf hawl i’w gael yn ôl. Dyma’r siars a gefais gan fy nhad.”
19Ac aeth yn ddwyblaid drachefn ymhlith yr Iddewon o achos y geiriau hyn;
20ac meddai llawer ohonynt: “Y mae ganddo gythraul ac y mae o’i gof. Paham yr ydych yn gwrando arno?”
21Meddai eraill: “Nid dyna eiriau dyn a chythraul ganddo; a all cythraul agor llygaid deillion?”
22Ac yr oedd yn ŵyl yr ailgysegriad y pryd hwnnw yng Nghaersalem; y gaeaf ydoedd,
23ac yr oedd yr Iesu yn cerdded yn y deml ym mhendist Solomon.
24Felly gwnaeth yr Iddewon gylch amdano, a dywedasant wrtho: “Pa hyd yr wyt am ein cadw rhwng dau feddwl? Os ti yw’r Eneiniog, dywed wrthym yn blaen.”
25Atebodd yr Iesu iddynt: “Dywedais wrthych, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf i yn eu gwneuthur yn enw fy nhad, y rhai hynny sydd yn tystio amdanaf i.
26Ond nid ydych chwi’n credu, am nad ydych o blith fy nefaid.
27Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais, ac adwaen i hwy, ac y maent yn fy nghanlyn,
28ac yr wyf innau yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol, ac ni threngant hwy byth yn dragywydd, ac ni chipia neb hwy o’m llaw i.
29Fy nhad, — yr hyn a roes ef i mi, y mae hynny’n fwy na phopeth, ac ni all neb gipio o law y tad;
30yr ydwyf i a’r tad yn un.”
31Cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio.
32Atebodd yr Iesu iddynt: “Llawer o weithredoedd a ddangosais i chwi, rhai da, oddiwrth y tad: am ba weithred ohonynt yr ydych yn fy llabyddio?”
33Atebodd yr Iddewon iddo: “Am weithred dda nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd, ac am dy fod di, â thithau’n ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn dduw.”
34Atebodd yr Iesu iddynt: “Onid yw wedi ei ysgrifennu yn eich cyfraith chwi, Dywedais i, duwiau ydych?
35Os galwodd ef y rheiny’n dduwiau y daeth gair Duw atynt (ac ni ellir diddymu’r ysgrythur),
36a ddywedwch chwi am yr hwn a gysegrodd y tad a’i anfon i’r byd, ‘Yr wyt yn cablu,’ am i mi ddywedyd, ‘Mab Duw ydwyf?’
37Onid wyf yn gwneuthur gweithredoedd fy nhad, na chredwch fi:
38ond os wyf yn eu gwneuthur, hyd yn oed oni chredwch fi, credwch y gweithredoedd, fel y gwypoch ac y dealloch fod y tad ynof i a minnau yn y tad.”
39Felly yr oeddynt yn ceisio drachefn ei ddal, ond aeth allan o’u gafael hwynt.
40Ac aeth ymaith drachefn dros Iorddonen i’r fan lle y byddai Ioan yn bedyddio ar y cyntaf, ac arhosodd yno.
41A daeth llawer ato, a dywedasant: “Ni wnaeth Ioan un arwydd, ond eto yr oedd y cwbl a ddywedodd Ioan am hwn yn wir.”
42A chredodd llawer ynddo yn y fan honno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.