Datguddiad RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)
RHAGAIRDatguddiad Ioan Aeth blynyddoedd heibio er pan gychwynnwyd y gwaith o gyfieithu Datguddiad Ioan, a gorffennwyd ef cyn symudiad yr Ysgrifennydd o’r Bala i Aberystwyth. Pwyllgor bychan fu wrth y gwaith, gan ddilyn testun Nestle yn gyson, a bu pob aelod yn bresennol ym mhob cyfarfod o’r dechrau i’r diwedd.Dymunwn ddiolch yn gynnes i’r Prifathro D. Emrys Evans am ei lafur yn adolygu’r cyfieithiad yn fanwl a’i wella’n fawr, ac i’r Athro Henry Lewis a Mr. Jenkin James am eu help parod hwythau.Fel yn y cyfieithiadau eraill a gyhoeddir yn y gyfres hon, argreffir dyfyniadau o’r Hen Destament mewn llythyren dduach na’r gweddill o’r testun. David Phillips, Cadeirydd. D. Francis Roberts. G. A. Edwards, Ysgrifennydd. Hydref, 1942.Datguddiad Ioan