1A gwelais ar ddeheulaw yr hwn a eisteddai ar yr orsedd lyfr wedi ei ysgrifennu oddi mewn ac ar ei gefn, wedi ei selio â saith sêl.
2A gwelais angel cryf yn cyhoeddi â llais uchel: Pwy sydd deilwng i agor y llyfr ac i ddatod ei seliau?
3Ac ni allai neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear agor y llyfr nac edrych arno.
4Ac wylwn lawer oblegid na chafwyd neb teilwng i agor y llyfr nac i edrych arno.
5A dywed un o’r henuriaid wrthyf: Nac wyla; wele trechodd y llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, i agor y llyfr a’i saith sêl.
6A gwelais ynghanol yr orsedd a’r pedwar peth byw ac ynghanol yr henuriaid oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith lygad, y rhai yw saith ysbryd Duw, danfonedig i’r holl ddaear.
7A daeth ef a chymerth o law ddeau yr un a eisteddai ar yr orsedd;
8a phan gymerth y llyfr syrthiodd y pedwar peth byw a’r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, a chanddynt bob un delyn a ffialau aur yn llawn arogl-darth, sef gweddïau’r saint.
9A chanant gân newydd gan ddywedyd:
Teilwng wyt i gymryd y llyfr ac agor ei seliau, canys ti a laddwyd, a phrynaist i Dduw â’th waed rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl,
10a gwnaethost hwy i’n Duw ni yn frenhiniaeth ac offeiriaid, a theyrnasant ar y ddaear.
11Ac edrychais a chlywais lais angylion lawer o gylch yr orsedd a’r pethau byw a’r henuriaid, a’u nifer oedd fyrddiynau ar fyrddiynau a miloedd ar filoedd,
12yn dywedyd â llef uchel:
Teilwng yw’r Oen a laddwyd i dderbyn y gallu a chyfoeth a doethineb a nerth ac anrhydedd a gogoniant a mawl.
13A phob creadur a’r sydd yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac yn y môr, a’r cwbl y sydd ynddynt, a glywais yn dywedyd:
I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth yn oes oesoedd.
14A dywedai’r pedwar peth byw, Amen; a syrthiodd yr henuriaid i lawr ac addolasant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.