1Ac meddai wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r rhai sydd yma’n sefyll na phrofant flas angau nes gweled teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.”
2Ac ymhen chwe diwrnod cymer yr Iesu Bedr ac Iago ac Ioan, a dwg hwynt i fynydd uchel o’r neilltu wrthynt eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwynt,
3a’i ddillad a aeth yn ddisglair, yn gannaid odiaeth, yn gyfryw ag na allai bannwr ar y ddaear eu cannu felly.
4Ac ymddangosodd iddynt Elïas ynghyda Moses, ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu.
5Ac atebodd Pedr, a dywed wrth yr Iesu, “Rabbi, da yw ein bod yma; a gwnawn dair pabell — i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.”
6Canys ni wyddai beth i’w ateb; canys ofn mawr a ddeuthai arnynt.
7A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a daeth llef o’r cwmwl, “Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch arno ef.”
8Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond yr Iesu’n unig gyda hwy eu hunain.
9Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd iddynt nad adroddent i neb yr hyn a welsent, onid wedi i Fab y dyn gyfodi o feirw.
10A daliasant ar y gair, gan ymholi yn eu plith eu hunain, “Beth yw’r cyfodi o feirw?”
11A gofynnent iddo gan ddywedyd, “Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?”
12Meddai yntau wrthynt, “Elïas yn wir sy’n dyfod yn gyntaf, ac a adfer
bob peth; a pha fodd y mae’n ysgrifenedig am Fab y dyn, ei fod i ddioddef llawer, ac i’w ddiystyru?13Eithr meddaf i chwi, y mae Elïas eisoes wedi dyfod, a gwnaethant iddo y pethau a fynnent, fel y mae’n ysgrifenedig amdano.”
14A phan ddeuthant at y disgyblion, gwelsant dyrfa fawr o’u hamgylch hwynt, ac ysgrifenyddion yn dadleu â hwynt.
15Ac yna’r holl dyrfa, pan welsant ef, a syfrdanwyd; a chan redeg ato cyfarchent well iddo.
16A gofynnodd iddynt, “Beth a ddadleuwch â hwynt?”
17Ac atebodd, un o’r dyrfa iddo, “Athro, mi ddygais fy mab atat, a chanddo ysbryd mud;
18a pha le bynnag yr ymafaelo ynddo, fe’i hyrddia i lawr; ac y mae’n malu ewyn, ac yn rhincian ei ddannedd, ac yn gwywo; a dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac nis gallasant.”
19Atebodd yntau iddynt, a dywed, “O, genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf, gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef ataf fi.”
20A dygasant ef ato. Ac wedi iddo’i weled, yn y fan dirdynnodd yr ysbryd ef, ac fe syrthiodd ar y llawr, ac ymdreiglai dan falu ewyn.
21A gofynnodd yntau i’w dad ef, “Pa faint o amser sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “Er yn blentyn;
22a llawer gwaith i dân y taflodd ef, ac i ddyfroedd, i’w ddifetha; eithr os gelli ddim tosturia wrthym, a chymorth ni.”
23A dywedodd yr Iesu wrtho, “‘Os gelli’! Popeth a ellir i’r neb a gredo.”
24Yna llefodd tad y plentyn, ac meddai, “Yr wyf yn credu; cymorth fy anghrediniaeth.”
25A phan welodd yr Iesu fod torf yn rhedeg ynghyd yno, ceryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, “Yr ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo.”
26Ac wedi llefain a’i ddirdynnu lawer, fe ddaeth allan; ac aeth ef megis celain, nes i’r lliaws ddywedyd “Bu farw.”
27Ond yr Iesu a ymafaelodd yn ei law, ac a’i cododd; a safodd i fyny.
28Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, ei ddisgyblion o’r neilltu a ofynnai iddo; “Paham na allasom ni ei fwrw allan?”
29A dywedodd wrthynt, “Y math hwn trwy ddim ni ellir ei fwrw allan ond trwy weddi.”
30Ac oddiyno aethant allan, a thramwyent trwy Galilea; ac ni fynnai ef i neb wybod.
31Canys dysgai ei ddisgyblion a dywedai wrthynt, “Traddodir Mab y dyn i ddwylo dynion, a lladdant ef; ac wedi ei ladd, ymhen tridiau fe atgyfyd.”
32Ond ni ddeallent hwy’r ymadrodd, ac ofnent ei holi.
33A deuthant i Gapernaum. Ac wedi dyfod i’r tŷ, fe ofynnai iddynt, “Am ba beth yr ymresymech ar y ffordd?”
34Ond tewi a wnaent hwy; canys ymresymasent â’i gilydd ar y ffordd pwy oedd fwyaf.
35Ac fe eisteddodd, a galwodd y deuddeg, ac eb ef wrthynt, “Os myn neb fod yn flaenaf, bydded o bawb yn olaf, ac i bawb yn was.”
36Ac fe gymerth blentyn bach, a gosododd ef yn eu canol hwynt; ac wedi ei gymryd yn ei freichiau, dywedodd wrthynt,
37“Pwy bynnag a dderbynio un o’r plant bach yma yn fy enw i, myfi a dderbyn; a phwy bynnag a’m derbynio i, nid myfi a dderbyn, ond yr hwn a’m hanfonodd.”
38Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a gwaharddem ef am nad oedd yn ein canlyn ni.”
39Ond yr Iesu a ddywedodd, “Peidiwch a’i wahardd; canys nid oes neb a wnêl rymuster yn fy enw, ac a all yn fuan roi drygair imi.
40Canys y neb nid yw i’n herbyn, drosom y mae.
41Canys pwy bynnag a ro i’w yfed i chwi gwpanaid o ddŵr o achos mai eiddo Crist ydych, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i obrwy.
42A phwy bynnag a faglo un o’r rhai bychain hyn sy’n credu, gwell fyddai iddo fod â maen melin mawr ynghrog am ei wddf, ac wedi ei daflu i’r môr.
43Ac os magla dy law dydi, tor hi ymaith; gwell yw dy fyned i mewn yn anafus i’r bywyd nag â’th ddwy law gennyt fyned ymaith i Gehenna, i’r tân anniffoddadwy.
45Ac os dy droed a’th fagla, tor ef ymaith; gwell yw dy fyned i mewn i’r bywyd yn gloff nag â’th ddau droed gennyt dy daflu i Gehenna.
47Ac os dy lygad a’th fagla, bwrw ef allan; gwell yw dy fyned i mewn yn unllygeidiog i deyrnas Dduw nag â dau lygad gennyt dy daflu i Gehenna,
48lle nid yw eu pryf yn marw, na’r tân yn diffodd.
Esa. 66:24.49Canys pob un a helltir â thân.
50Da yw’r halen; ond od â’r halen yn ddi-hallt, a pha beth y cyweiriwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch mewn heddwch bawb a’i gilydd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.