1 Ioan 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Gwelwch y fath gariad y mae’r Tad wedi ei roddi i ni, cael ein galw yn blant Duw, ac yr ydym (yn blant Duw). Oherwydd hyn nid yw’r byd yn ein hadnabod, am nad adnabu Ef.

2Rai annwyl, plant Duw ydym yn awr, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Gwyddom, pan amlyger, y byddwn debyg iddo Ef, oherwydd gwelwn Ef fel y mae.

3Ac y mae pob un y mae ganddo’r gobaith hwn ynddo Ef yn ei lanhau ei hun, fel y mae Yntau’n lân.

4Y mae pob un sy’n gwneuthur pechod yn gwneuthur anghyfraith hefyd, ac anghyfraith yw pechod.

5A gwyddoch Ei fod Ef wedi ymamlygu er mwyn tynnu ymaith bechodau, ac nid oes bechod ynddo Ef.

6Nid oes neb sy’n aros ynddo Ef yn pechu. Nid oes neb sy’n pechu wedi Ei weled nac yn Ei adnabod.

7Blant bach, nac arweinied neb chwi ar gyfeiliorn. Y mae’r neb sy’n gwneuthur cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae Ef yn gyfiawn.

8Y neb sy’n gwneuthur pechod, o’r diafol y mae, oherwydd y mae’r diafol yn pechu o’r dechrau. I hyn yr amlygwyd mab Duw, — er mwyn iddo ddatod gweithredoedd y diafol.

9Nid oes neb sydd yn hanfod o Dduw yn gwneuthur pechod, gan fod Ei had Ef yn aros ynddo. Ac ni all bechu am ei fod yn hanfod o Dduw.

10Yn hyn y mae’n hysbys blant Duw a phlant y diafol. Nid oes neb nad yw’n gwneuthur cyfiawnder o Dduw, ac nad yw’n caru ei frawd;

11canys hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechrau, garu ohonom ein gilydd;

12nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, a lladd ei frawd. Ac oherwydd pa beth y lladdodd ef? Am fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn.

13Na ryfeddwch, frodyr, os ydyw’r byd yn eich casáu.

14Gwyddom ni ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, gan ein bod yn caru’r brodyr; y mae’r hwn nad yw’n caru yn aros ym marwolaeth.

15Y mae pob un sy’n casáu ei frawd yn llofrudd, a gwyddoch nad oes gan neb llofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

16Wrth hyn yr adwaenom y cariad, Ei fod Ef wedi rhoddi drosom ni Ei fywyd a dylem ninnau roddi ein bywydau dros y brodyr.

17Ond y neb sydd mewn bywoliaeth yn y byd ac yn edrych ar ei frawd ac yntau mewn eisiau, a chau ei galon yn ei erbyn, pa fodd y mae cariad Duw yn aros yn hwnnw?

18Blant bach, peidiwn â charu ar air nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd.

19Wrth hyn y cawn wybod ein bod o’r gwir, a thawelu ein calon o’i flaen Ef,

20ym mha beth bynnag y condemnia ein calon ni, am fod Duw yn fwy na’n calon ni ac yn gwybod y cwbl.

21Rai annwyl, onid yw ein calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder tuag at Dduw,

22ac yr ydym yn derbyn ganddo ba beth bynnag a ofynnom, am ein bod yn cadw Ei orchmynion Ef, ac yn gwneuthur pethau cymeradwy yn Ei olwg Ef.

23A hwn yw Ei orchymyn Ef, gredu ohonom yn enw Ei Fab Ef Iesu Grist a charu ein gilydd fel y rhoes orchymyn inni.

24Ac y mae’r hwn sy’n cadw Ei orchmynion Ef yn aros ynddo Ef, ac Yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom Ei fod yn aros ynom, o’r ysbryd a roes i ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help