1Pawl, gwas Duw ac Apostol Iesu Grist yn ôl ffydd pobl ddewisol Duw, a chanfyddiad y gwirionedd sy’n ôl duwioldeb,
2ar bwys gobaith bywyd tragwyddol a addawodd y digelwyddog Dduw cyn yr oesoedd
3(do, mewn iawn bryd fe hysbysodd ei air trwy bregethu, a hyn a ymddiriedwyd i mi yn ôl gosodiad Duw ein Hiachawdwr),
4at Titus, ei ddilys blentyn yn y ffydd sydd gennym yn gyffredin. Gras a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Hiachawdwr.
5Mi a’th adewais yng Nghreta i gwplàu ohonot y gweddill o’r trefniadau a sefydlu henuriaid ym mhob dinas fel yr erchais iti,
6od oes neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant yn credu, nas cyhuddir o fod yn afradlon nac yn anhydrin.
7Canys fe ddylai arolygwr fod yn ddiargyhoedd fel goruchwyliwr i Dduw, nid yn gyndyn, nid yn nwydwyllt, nid yn feddwyn, nid yn ymladdgar, nid yn fudrelwr.
8Eithr â’i dŷ yn agored, yn gyfaill daioni, yn synhwyrol, yn gyfiawn, yn santaidd, a chanddo hunanlywodraeth,
9yn dal yn dynn wrth y gair ffyddlon sydd yn ôl yr addysg, fel y gallo hefyd gynghori yn y ddysgeidiaeth iach, a gwrthbrofi’r rhai sy’n gwrthddywedyd.
10Canys y mae llawer yn anhydrin, yn twyllo meddyliau â’u gwag resymau, yn enwedig plaid yr enwaediad;
11rhaid rhoi taw ar y rhain; dymchwelant deuluoedd cyfain trwy ddysgu’r hyn na ddylid, er mwyn budrelw.
12Fe ddywed rhyw broffwyd ohonynt hwy eu hunain, “Celwyddwyr yw’r Cretiaid erioed, anfad anghenfilod, boliau gorddïog.”
13Y mae’r dystiolaeth hon yn wir. O achos hyn argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,
14heb ymroddi i chwedlau Iddewaidd a gorchmynion dynion a gefna ar y gwirionedd.
15Pur yw popeth i’r rhai pur, ond i’r rhai difwynedig a’r di-ffydd nid oes dim yn bur, eithr difwynwyd eu meddwl a’u cydwybod.
16Proffesant adnabod Duw, eithr mewn gweithredoedd fe’i gwadant. Ffiaidd ac anufudd ydynt, a diwerth at unrhyw waith da.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.