1“Myfi yw’r wir winwydden, a’m tad yw’r gwinllannwr.
2Pob cangen ynof i nad yw’n dwyn ffrwyth, fe dyrr honno ymaith, a phob un sy’n dwyn ffrwyth, fe lanha honno er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.
3Yr ydych chwi eisoes yn lân o achos y gair a ddywedais wrthych.
4Arhoswch ynof, a minnau ynoch chwithau. Fel na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun onid erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau chwaith, onid arhoswch ynof i.
5Myfi yw’r winwydden, chwithau’n ganghennau. Y neb sy’n aros ynof i a minnau ynddo yntau, y mae ef yn dwyn ffrwyth lawer, gan na ellwch ar wahân oddiwrthyf wneuthur dim.
6Onid erys un ynof i, y mae wedi ei fwrw allan fel y gangen ac wedi gwywo, ac y maent yn casglu’r rhain ac yn eu taflu i’r tân ac fe’u llosgir.
7Os arhoswch ynof i, ac os erys fy ngeiriau i ynoch, gofynnwch yr hyn a fynnoch, a bydd i chwi.
8Yn hyn y gogoneddwyd fy nhad, ddwyn ohonoch, ffrwyth lawer, a byddwch yn ddisgyblion i mi.
9Fel y carodd y tad fi, felly hefyd y cerais innau chwithau.
10Arhoswch yn fy nghariad i. Os cedwch fy ngorchmynion i, byddwch yn aros yn fy nghariad, fel yr wyf i wedi cadw gorchmynion fy nhad ac yn aros yn ei gariad ef.
11Hyn a ddywedais wrthych fel y byddo fy llawenydd i ynoch ac y byddo’ch llawenydd chwi’n gyflawn.
12Hwn yw fy ngorchymyn i, garu ohonoch eich gilydd fel y cerais i chwi.
13Mwy cariad na hyn nid oes gan neb, bod un yn rhoddi ei fywyd dros ei gyfeillion.
14Fy nghyfeillion i ydych chwi os gwnewch yr hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi.
15Nid wyf bellach yn eich galw yn weision, am na ŵyr y gwas yr hyn y mae ei feistr yn ei wneuthur. Ond cyfeillion y’ch gelwais chwi, gan fy mod wedi hysbysu i chwi bopeth a glywais gan fy nhad.
16Nid chwi a’m dewisodd i, ond myfi a’ch dewisodd chwi, a gosodais chwi i fyned a dwyn ffrwyth ac aros o’ch ffrwyth fel, pa beth bynnag a ofynnoch gan y tad yn fy enw i, y rhoddo ef hynny i chwi.
17Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd.
18Os, yw’r byd yn eich cashau, gwybyddwch ei fod wedi fy nghashau i o’ch blaen chwi.
19Pe baech o’r byd, byddai’r byd yn caru ei eiddo ei hun, ond am nad ydych o’r byd, ond fy mod i wedi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich cashau.
20Cofiwch y gair a ddywedais wrthych, ‘Nid yw’r gwas yn fwy na’i feistr.’ Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant; os cadwasant fy ngair i, eich gair chwithau a gadwant hefyd.
21Ond hyn oll a wnânt i chwi oherwydd fy enw i, am nad adwaenant yr un a’m hanfonodd i.
22Onibai i mi ddyfod a siarad wrthynt, ni buasai arnynt bechod; ond yn awr esgus nid oes ganddynt am eu pechod.
23Y mae’r hwn sy’n fy nghashau i yn cashau fy nhad hefyd;
24onibai fy mod wedi gwneuthur y gweithredoedd yn eu mysg hwy na wnaeth neb arall, ni byddai ganddynt bechod; ond yn awr y maent wedi gweled ac wedi fy nghashau i a’m tad hefyd.
25Ond cyflawner y gair sydd wedi ei ysgrifennu yn eu cyfraith hwy — Y maent wedi fy nghashau i am ddim.
26Pan ddaw eich plaid a anfonaf i chwi oddiwrth y tad, ysbryd y gwirionedd sy’n deillio oddiwrth y tad, hwnnw a dystia amdanaf;
27ac yr ydych chwithau’n tystio gan eich bod gyda mi o’r dechreu.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.