1Yr wyf yn annog, ynteu, yn gyntaf oll, offrymu ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau dros ddynion oll;
2dros frenhinoedd a phawb sy ben, fel y treuliom ein dyddiau yn llonydd a thawel gyda phob duwioldeb a sobrwydd.
3Hyn sydd dda a derbyniol gan Dduw ein Hiachawdwr,
4yr hwn a fyn fod pob dyn wedi ei achub a dyfod i wybod y gwirionedd.
5Canys un Duw sydd, un canolwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef y dyn Crist Iesu,
6yr hwn a’i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb — y dystiolaeth mewn iawn bryd:
7i hon y’m gosodwyd i’n bregethwr ac apostol (gwir a ddywedaf ac nid celwydd), yn athro i’r cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
8Dymunaf, ynteu, am i’r gwŷr weddïo ym mhob lle, gan ddyrchafu dwylo santaidd heb lid nac ymryson.
9Yr un modd y gwragedd, ymdrwsient mewn diwyg weddaidd, yn wylaidd a synhwyrol: nid â phlethiadau gwallt ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr,
10ond, fel y gweddai i wragedd sy’n proffesu duwioldeb, â gweithredoedd da.
11Dysged gwraig yn dawel gyda chwbl ymostyngiad.
12Nid wyf yn caniatáu wraig addysgu na chwaith awdurdodi ar ŵr, ond bod yn dawel.
13Canys Adda yn gyntaf a luniwyd, yna Efa.
14Ac Adda nis twyllwyd, ond y wraig o’i llwyr dwyllo a aeth i gamwedd.
15Eithr achubir hwynt wrth ddwyn plant os arhosant mewn ffydd a chariad a santeiddrwydd ynghyda synnwyr da.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.