1Gochelwch wneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion er mwyn cael eich gweled ganddynt; onid e, nid oes dâl i chwi gan eich Tad sydd yn y nefoedd.
2Gan hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, megis y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau ac ar yr heolydd, fel y clodforer hwynt gan ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
3Ond tydi pan wnelych elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau,
4fel y bo dy elusen di yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
5A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwyr; canys carant sefyll i weddïo yn y synagogau ac yng nghonglau’r heolydd, i’w dangos eu hunain i ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
6Ond tydi, pan weddïych, dos i’th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
7Ac wrth weddïo na fyddwch siaradus fel y cenedlddynion; canys tybio y maent mai am eu haml eiriau y gwrandewir hwynt.
8Nac ymdebygwch, ynteu, iddynt hwy; canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn i chwi ofyn iddo.
9Fel hyn, ynteu, y gweddïwch chwi:
‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,
Santeiddier dy enw;
10deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear.
11Ein bara beunyddiol
14Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, fe faddau eich Tad nefol hefyd i chwithau;
15eithr oni faddeuwch i ddynion, eich Tad chwaith ni faddau eich camweddau chwi.
16A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr yn aflawen eich gwedd; canys difwyno’u hwynebau y maent, er mwyn ymddangos i ddynion fel ymprydwyr; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
17Ond tydi, pan ymprydych, eneinia dy ben a golch dy wyneb,
18rhag it ymddangos i ddynion fel ymprydiwr, eithr i’th Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
19Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata;
20ond trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nid oes ladron yn cloddio trwodd nac yn lladrata:
21canys lle mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd.
22Lamp y corff yw’r llygad. Gan hynny os bydd dy lygad yn iawn, dy holl gorff a fydd yn olau;
23Ond os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff a fydd yn dywyll. Os ynteu’r goleuni ynot sydd dywyllwch, mor enfawr yw’r tywyllwch!
24Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
25Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch neu beth a yfwch; nac am eich corff, beth a wisgwch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r dillad?
26Edrychwch ar adar y nef; nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn cywain i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy; onid ydych chwi’n amgenach o lawer na hwy?
27A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu hanner llath at ei oes?
28A pham y pryderwch am ddillad? Ystyriwch lilïau’r maes pa fodd y tyfant; ni lafuriant ac ni nyddant;
29ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain.
30Ac os dillada Duw felly wellt y maes, y sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, onid llawer mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd?
31Na phryderwch, ynteu, gan ddywedyd ‘Beth a fwytawn?’ neu ‘Beth a yfwn?’ neu ‘Beth a wisgwn?’
32canys yr holl bethau hyn y mae’r cenhedloedd yn eu ceisio; canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r pethau hyn oll.
33Ond ceisiwch yn gyntaf ei deyrnas a’i gyfiawnder ef, a’r pethau hyn oll a roddir i chwi’n ychwaneg.
34Na phryderwch, ynteu, am yfory, canys yfory a ddwg ei bryder ei hun. Digon i’r diwrnod ei helbul.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.