1Paul carcharor Crist Iesu a’r brawd Timotheus at Philemon ein hanwylyd a’n cyd-weithiwr
2ac at Apffia ein chwaer ac at Archippus ein cyd-filwr ac at yr eglwys yn dy dŷ;
3gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
4Diolchaf i’m Duw yn wastadol gan wneuthur coffa ohonot yn fy ngweddïau,
5o glywed am dy gariad a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint,
6fel y bo cyfranogi o’th ffydd yn effeithiol mewn gwybodaeth o bob rhyw ddaioni sydd ynom tuag at Grist;
7canys cefais lawer o lawenydd a diddanwch ar gyfrif dy gariad, fy mrawd, oherwydd adfywiwyd calonnau’r saint drwot ti.
8Gan hynny, er bod gennyf bob rhyddid yng Nghrist i orchymyn dy ddyletswydd iti,
9yn hytrach ar sail cariad yr wyf yn cymell, — a mi Paul megis hynafgwr ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu — cymhellaf di
10ar ran fy mhlentyn a genhedlais yn fy rhwymau, Onesimus,
11a fu gynt yn ddifudd i ti, eithr yn awr sy’n fuddiol iawn i ti ac i minnau:
12anfonaf ef yn ôl atat, ac yntau yn fyw fy nghalon;
13ewyllysiwn ei gadw gyda mi, i’m gwasanaethu trosot yn rhwymau yr efengyl,
14ond ni ewyllysiais wneuthur dim heb dy gydsyniad di, fel na byddai dy ddaioni fel petai o anghenraid ond o wirfodd.
15Efallai, yn wir, mai am hyn y gwahanwyd ef oddi wrthyt dros dro, fel y cait ef yn ôl dros fyth,
16nid fel gwas mwyach eithr yn fwy na gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi, ac yn fwy fyth i ti yn y cnawd ac yn yr Arglwydd.
17Felly os wyt yn fy nghymryd fel cyfaill, derbyn ef megis mi fy hun.
18Os gwnaeth unrhyw gam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny i mi;
19myfi Paul wyf yn ysgrifennu â’m llaw fy hun, myfi a dalaf — fel na ddywedwyf wrthyt dy fod dithau yn fy nyled i amdanat dy hun.
20Yn awr, frawd, gad i mi dderbyn lles oddi wrthyt yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.
21Gan ymddiried yn dy ufudd-dod yr ysgrifennaf atat, yn gwybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
22Yr un pryd, paratoa lety i mi; oherwydd gobeithiaf trwy eich gweddïau chwi y’m cyflwynir i chwi.
23Y mae yn dy gyfarch Epaffras fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu,
24Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghydweithwyr.
25Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.