1A hwy’n llefaru wrth y bobl daeth yr archoffeiriaid a phennaeth y Deml a’r Sadwceaid arnynt,
2yn ymboeni am eu bod yn dysgu’r bobl ac yn cyhoeddi ynglŷn â’r Iesu yr atgyfodiad o feirw,
3a gosodasant eu dwylo arnynt a’u rhoi dan warchod hyd drannoeth; canys yr oedd hi yn awr yn hwyr.
4Ond llawer o’r rhai a glywsai’r gair a gredodd, ac aeth rhif y gwŷr yn rhyw bum mil.
5A thrannoeth y bu cyfarfod o’u llywodraethwyr hwynt a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion yng Nghaersalem
6(a hefyd Annas, yr archoffeiriad, a Chaiaffas ac Ioan ac Alecsander a chynifer ag a oedd o’r teulu archoffeiriadol),
7ac wedi eu gosod hwynt yn y canol holent, “Ym mha nerth neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?”
8Yna Pedr, wedi ei lanw â’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, “Lywodraethwyr y bobl a henuriaid,
9os ŷm ni heddiw ar brawf am gymwynas i ddyn claf, pa fodd y mae hwn yn iach,
10bydded hysbys i chwi oll ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist y Nasaread, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y saif hwn ger eich bron yn iach.
11Hwn yw’r maen a ddiystyriwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn ben y gongl.
26 Ymddangosodd brenhinoedd y ddaear,
a’r llywodraethwyr a ymgasglodd ynghyd
yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Eneiniog ef.
27Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was santaidd Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat ynghyd â’r cenhedloedd a phobloedd Israel,
28i wneuthur yr hyn y rhagluniodd dy law a’th gyngor ei ddyfod.
29Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i’th weision gyda phob hyfder lefaru dy air,
30tra estynnych di dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy was santaidd, Iesu.”
31Ac wedi iddynt ymbil, ysgydwyd y lle yr oeddynt wedi ymgasglu, a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a llefarent air Duw yn hy.
32A’r lliaws o’r rhai a gredodd oedd o un galon ac enaid, ac ni ddywedai undyn fod dim o’i feddiannau yn eiddo iddo, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.
33Ac â nerth mawr y rhoddes yr apostolion eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll.
34Ac yn wir nid oedd neb anghenus yn eu plith; canys gwerthai cynifer ag a oedd feddianwyr tiroedd neu dai, a dygent y tâl am yr hyn a werthid,
35a’i osod wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb, yn ôl fel y byddai ar neb angen.
36Ioseff, a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (sef, o’i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth,
37yr hwn bioedd ddarn o dir, a’i gwerthodd, a dug yr arian a’i roddi wrth draed yr apostolion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.