2 Corinthiaid 7 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Am hynny, anwylyd, gan fod gennym yr addewidion hyn, glanhawn ein hunain oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.

2Gwnewch le i ni. Ni wnaethom gam â neb, ni lygrasom neb, ni thwyllasom neb.

3Nid i’ch condemnio yr wyf yn llefaru. Canys dywedais eisoes eich bod yn ein calonnau fel y byddom farw a byw gyda’n gilydd.

4Mawr yw fy rhyddid tuag atoch, mawr yw fy ymffrost o’ch plegid. Yr wyf yn gyflawn o ran diddanwch, yr wyf yn orlawn o ran gorfoledd ym mhob gorthrymder a ddaw i’n rhan.

5Canys yn wir, wedi dyfod ohonom i Facedonia ni chafodd ein cnawd ddim gorffwys, eithr ym mhob dim y’n cystuddiwyd. Oddi allan brwydrau, oddi mewn ofnau.

6Eithr cysurwr y rhai darostyngedig, sef Duw, a’n cysurodd ni trwy ddyfodiad Titws.

7Ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad eithr hefyd trwy’r cysur a gafodd ef yn eich plith. Adroddodd wrthym am eich hiraeth, eich gofid a’ch sêl o’m plaid nes i mi lawenhau’n fwy fyth.

8Canys os perais dristwch i chwi drwy’r llythyr nid yw’n edifar gennyf; os hefyd y bu’n edifar gennyf — gwelaf fod y llythyr hwnnw wedi eich tristáu,

9er nad dim ond dros dro — erbyn hyn yr wyf yn llawen, nid oblegid eich bod wedi profi tristwch eithr oblegid eich bod wedi tristáu hyd at edifeirwch. Canys fe’ch tristawyd yn ôl ewyllys Duw, fel na chaffech eich niweidio mewn unrhyw fodd drwom ni.

10Oblegid y mae tristwch yn ôl ewyllys Duw yn cynhyrchu edifeirwch er iachawdwriaeth sydd ddiedifarus. Ond y mae tristwch y byd yn cynhyrchu marwolaeth.

11Wele, atolwg, gymaint eiddgarwch a barodd y tristwch sydd wrth fodd Duw i chwi a pha gyfiawnhad, pa ddicllonedd, pa ofn, pa hiraeth, pa sêl, pa gosbedigaeth. Fe’ch dangosasoch eich hunain ym mhob rhyw fodd yn bur yn y drafodaeth.

12Gan hynny os ysgrifennais atoch, nid oblegid y sawl a wnaeth anghyfiawnder nac oblegid y sawl a’i dioddefodd y gwneuthum hynny, eithr fel yr amlygid yn eich plith, gerbron Duw, eich eiddgarwch drosom ni.

13Oblegid hyn y cysurwyd ni. Ond heblaw y cysur a ddaeth i’n rhan ni cawsom orfoledd llawer mwy oblegid y gorfoledd a ddaeth i ran Titws, canys cafodd ei ysbryd orffwystra drwy bawb ohonoch chwi.

14Canys os ymffrostiais ddim wrtho o’ch plegid chwi ni’m cywilyddiwyd, eithr megis y llefarasom bopeth wrthych mewn gwirionedd, felly hefyd y gwireddwyd ein hymffrost gerbron Titws.

15Y mae ganddo serch eithriadol gynnes tuag atoch wrth gofio am ufudd-dod pawb ohonoch, pa fodd y derbyniasoch ef gydag ofn a chryndod.

16Y mae’n llawen gennyf fy mod, ym mhob dim, yn gallu ymddiried ynoch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help