1“Frodyr a thadau, clywch fy amddiffyn wrthych yr awron.”
2Pan glywsant mai yn yr iaith Hebraeg yr oedd yn eu hannerch, rhoesant dawelwch mwy.
3“Gŵr o Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus Cilicia, wedi fy nghodi yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy addysgu yn ôl manylrwydd Cyfraith y tadau, yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw;
4erlidiais y Ffordd hon hyd angau, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd,
5fel y tystiai i mi yr Archoffeiriaid a holl Gyngor yr henuriaid; oddiwrthynt hwy y derbyniais lythyrau at y brodyr yn Namascus, ac yr oeddwn ar y ffordd, i ddwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Gaersalem i’w cosbi.
6Ond pan oeddwn ar y ffordd ac yn dynesu at Ddamascus, tua chanol dydd yn sydyn fe fflachiodd o’r nef oleuni mawr o’m hamgylch;
7syrthiais i’r llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf, ‘Saul, Saul, paham y’m herlidi?’
8Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu y Nasaread wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ A’r rhai oedd gyda mi,
9gwelsant y goleuni, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf nis clywsant.
10A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cyfod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt am bob peth yr ordeiniwyd i ti ei wneuthur.’
11A chan na welwn ddim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe’m dygwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.
12A rhyw Ananias, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, ac iddo air da gan yr holl Iddewon a drigai yno, a ddaeth ataf,
13a chan sefyll yn ymyl fe ddywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, cymer dy olwg yn ôl.’ A minnau, yr awr honno, cefais fy ngolwg yn ôl, ac edrychais arno.
14A dywedodd yntau: ‘Duw ein tadau a’th ddewisodd di i wybod ei ewyllys ac i weled yr un Cyfiawn ac i glywed llef o’i enau ef;
15canys ti fyddi’n dyst iddo wrth bob dyn am yr hyn a welaist ac a glywaist.
16Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, a bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw.’
17A digwyddodd, wedi i mi ddychwelyd i Gaersalem, pan oeddwn yn gweddïo yn y Deml, imi fyned mewn llewyg
18a’i weled ef yn dywedyd wrthyf, ‘Brysia, a dos yn glau allan o Gaersalem, oherwydd ni dderbyniant gennyt ti dystiolaeth amdanaf fi.’
19A dywedais innau, ‘Arglwydd, gwyddant hwy mai myfi oedd yn carcharu ac yn fflangellu, o synagog i synagog, y rhai a gredai ynot ti;
20a phan oeddid yn tywallt gwaed Steffan, dy ferthyr, yr oeddwn i fy hun yn sefyll yn ymyl, ac yn cymeradwyo, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdai.’
21A dywedodd wrthyf, ‘Dos, canys danfonaf fi di at y Cenhedloedd ymhell.’ ”
22Gwrandawsent arno hyd y gair hwn, ac yna codasant eu llef gan ddywedyd, “Ymaith â’r fath un oddiar y ddaear! Nid gweddus ei fod yn fyw.”
23Ac fel yr oeddynt yn gweiddi ac yn ysgytio eu dillad ac yn taflu llwch i’r awyr,
24gorchmynnodd y capten ei ddwyn i mewn i’r castell, gan ddywedyd am ei holi ef trwy fflangellu, er mwyn cael gwybod am ba reswm y llefent felly yn ei erbyn.
25Ond pan estynasant ef â’r careiau, dywedodd Paul wrth y canwriad a safai ger llaw, “Ai rhydd i chwi fflangellu dyn sydd yn Rhufeiniwr, a heb ei farnu?”
26Pan glywodd y canwriad, aeth at y capten, ac fe’i mynegodd iddo, gan ddywedyd, “Beth yr wyt ti am ei wneuthur? Rhufeiniwr yw y dyn yma.”
27Ac aeth y capten ato, a dywedyd wrtho, “Dywed i mi, ai Rhufeiniwr wyt ti?” Eb yntau, “Ie.”
28Ac atebodd y capten, “A swm mawr y cefais i y ddinasfraint hon.” Ac ebe Paul, “Minnau, fe’m ganed â hi.”
29Yn union gan hynny fe ymneilltuodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi; ac ofnodd hyd yn oed y capten, pan wybu mai Rhufeiniwr oedd, a’i fod yntau wedi ei rwymo.
30A thrannoeth, ac ef yn dymuno gwybod yn sicr pa gyhuddiad, a ddygid gan yr Iddewon fe’i gollyngodd ef, a gorchmynnodd i’r Archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin ymgynnull, ac fe ddug Paul i lawr, a’i osod ger eu bron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.