1Am hynny, gan adael y wers gyntaf am y Crist, gyrrwn ymlaen at y llawn dyfiant, heb ailosod sylfaen o edifeirwch am weithredoedd meirwon ac o ffydd ar Dduw,
2sef y ddysg am fedyddiadau, arddodiad dwylo, atgyfodiad y meirw, a barn dragwyddol —
3yr hyn a wnawn, os caniatâ Duw.
4Canys y rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofodd y rhodd nefol, ac a ddaeth yn gyfrannog o’r ysbryd glân,
5ac a brofodd air Duw yn dda a nerthoedd y byd a ddaw —
6ac a gwympodd ymaith wedyn — amhosibl adnewyddu’r rhain i edifeirwch, gan eu bod yn croeshoelio iddynt eu hunain fab Duw a’i osod yn wawd.
7Canys tir yn yfed y glaw a ddaw’n fynych arno ac yn dwyn llysiau addas i’r rhai y trinir ef hefyd er eu mwyn, y mae hwnnw yn cyfranogi o fendith gan Dduw;
8ond os drain ac ysgall a ddwg y mae’n wrthodedig ac ar fin melltith, a’i ddiwedd fydd ei losgi.
9Ond yr oeddem ni’n hyderu amdanoch chwi, rai annwyl, bethau gwell ac yn perthyn i iachawdwriaeth, er ein bod yn siarad fel hyn.
10Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofiaf eich gwaith chwi a’r cariad a ddangosasoch at ei enw ef wrth weini i’r saint, a dal i weini.
11Ond chwenychwn i bob un ohonoch ddangos yr un awydd am gyfiawnder y gobaith i’r pen draw,
12fel na byddoch swrth, ond yn efelychwyr y rhai sydd trwy ffydd a dyfalwch yn etifeddu’r addewidion.
13Canys pan roes Duw ei addewid i Abraham — gan nad oedd ganddo neb mwy i
14dyngu wrtho — fe dyngodd wrtho’i hun a dywedyd, “Yn wir, gan fendithio mi a’th fendithiaf, a chan amlhau mi a’th amlhaf di,”
15ac fel hyn trwy ei ddyfalwch, daeth yr addewid i’w ran.
16Canys wrth un sydd fwy y bydd dynion yn tyngu, ac iddynt hwy diwedd pob dadl i gadarnhau’r mater ydyw’r llw.
17Am hyn, ag yntau’n ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr addewid, ddianwadalwch ei gyngor, cyfryngodd Duw dan lw,
18fel drwy ddwy weithred ddianwadal — y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt — y caffom ni galondid cryf, y rhai a ffodd i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen.
19Ac y mae hwn gennym ni fel angor yr enaid, yn ddiogel ac yn ddiysgog, ac yn myned drwodd hyd at oddi mewn i’r llen,
20i’r lle’r aeth Iesu yn rhagredegydd drosom, pan ddaeth yn archoffeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.