1Pawl, Apostol Crist Iesu, yn ôl gosodiad Duw ein Hiachawdwr a Christ Iesu ein gobaith,
2at Timotheus ei ddilys blentyn yn y ffydd. Gras, trugaredd, a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3Megis y’th anogais, wrth imi deithio i Facedonia, dal i aros yn Effesus i rybuddio rhyw rai na ddysgont ddim dieithr,
4na chwaith ymroddi i chwedlau ac achau diddiwedd, y cyfryw bethau ag sy’n peri dyfaliadau yn hytrach na threfn Duw yr hon sydd trwy ffydd.
5Diben y ddysg yw cariad o galon bur, o gydwybod dda, ac o ffydd ddiffuant.
6Ac wedi methu â chyrraedd y pethau hyn fe droes rhai at ofer siarad,
7gan ewyllysio bod yn ddoctoriaid cyfraith, a hwythau heb ddeall na’r pethau a ddywedant na’r pethau y taerant amdanynt.
8Gwyddom mai gwych o beth yw’r gyfraith, os arfer dyn hi fel cyfraith,
9gan wybod nad i ŵr uniawn y gosodwyd cyfraith ond i rai digyfraith ac anufudd, i annuwiolion a phechaduriaid, i rai halog a chableddus, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid, i lofruddion,
10i buteinwyr, i wrywgydwyr, i gaethgludwyr, i gelwyddwyr, i anudonwyr, a pheth bynnag arall sydd wrthwyneb i’r ddysgeidiaeth iach
11y sydd yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, a ymddiriedwyd i mi.
12Diolchaf i’r hwn a roddes allu ynof, Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif i yn ffyddlon, a’m gosod mewn gwasanaeth,
13a minnau gynt yn gablwr, erlidiwr ac yn drahaus. Eithr trugarhawyd wrthyf am mai o anwybod y gweithredais mewn anghrediniaeth.
14A thra-amlhaodd gras ein Harglwydd ynghyda ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
15Gwir yw y gair, a theilwng o bob croeso, i Grist Iesu ddyfod i’r byd i achub pechaduriaid; y pennaf o’r rhain ydwyf fi.
16Eithr er mwyn hyn y trugarhawyd wrthyf, fel ynof fi ymlaenaf yr arddangosai Iesu Grist ei holl amynedd, i fod yn enghraifft o’r rhai sydd i gredu ynddo ef i fywyd tragwyddol.
17I’r Brenin tragwyddol,
Anllygradwy, anweledig, yr unig Dduw,
Y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
18Yr anogaeth hon a roddaf iti, fy mhlentyn Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a arweiniodd atat ti, filwrio ohonot yng ngrym y rhain y filwriaeth deg,
19a bod gennyt ffydd a chydwybod dda, y mynnodd rhai wared ohoni a gwneuthur llongddrylliad ynghylch y ffydd;
20o’r rhain y mae Hymenaeos ac Alecsandros a draddodais i Satan, fel y’u dysgid hwy i beidio â chablu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.