1A ffordd odidocach fyth yr wyf yn ei dangos i chwi. Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, a’m bod eto heb gariad, wele efydd yn datsain neu symbal yn sernial fyfi.
2A phe bai eiddof broffwydo a bod yn hysbys i mi’r dirgelion i gyd, a phob gwybod, a phe bai i mi bob ffydd, fel y symudwn fynyddoedd, eto, a’m bod heb gariad, nid wyf ddim.
3A phe’n gardod y rhannwn fy meddiannau oll, a phe dodwn fy nghorff fel y’m llosgid, a’m bod hefyd heb gariad, nid llesach i mi hynny.
4Cariad, hirymarhous yw; cymwynasgar fydd cariad; ni bydd cenfigennus; nid ymffrostia cariad, nid ymchwydda;
5ni bydd anweddaidd, ni chais yr eiddo’i hun, nis cythruddid ni chyfrif ddrwg.
Sech. 8:17.6Ni bydd lawen oblegid anghyfiawnder, eithr cydlawenhâ â’r gwirionedd.
7Dioddefa bob dim yn ddistaw, cred bob dim, gobeithia bob dim, deil odditan bob dim.
8Cariad byth ni chwymp i lawr; eithr am broffwydoliaethau, fe’u diddymir, neu am dafodau, fe dawant, neu wybodaeth, fe’i diddymir.
9Canys darn-wybod yr ydym, a darn-broffwydo.
10Eithr pa bryd bynnag y dêl y peth cyflawn, yna diddymir y darn-beth.
11Pan oeddwn blentyn, llefarwn fel plentyn, syniwn fel plentyn, rhesymwn fel plentyn; ond wedi dyfod yn ŵr, bwriais heibio bethau’r plentyn.
12Canys ar hyn o bryd gweled trwy ddrych yr ydym, ar wedd pôs, ond y pryd hwnnw, wyneb yn wyneb; weithion, mewn rhan yr adwaen, ond yna hefyd y llwyr adnabyddaf megis y’m llwyr adweinir.
13Felly yr awron fe erys ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn. A mwyaf ohonynt yw cariad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.