2 Corinthiaid 5 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Canys gwyddom os datodir ein daearol drigle yn y babell fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, sef trigle nid o waith llaw ond un tragwyddol yn y nefoedd.

2Ac yn wir griddfan yr ydym yn hwn gan ein bod yn awyddus am gael ein harwisgo â’n preswylfa nefol.

3Os byddwn felly wedi ein harwisgo, nid yn noethion y’n ceir.

4Gan hynny yr ydym ni sydd yn y babell, yn griddfan o dan ein baich, oblegid nid ydym yn dymuno cael ein dadwisgo eithr ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd.

5A’r sawl a weithiodd arnom i’r perwyl hwn yw Duw, yr hwn a roddes yr Ysbryd yn ernes inni.

6Yr ydym, oblegid hyn, yn hyderus bob amser gan ein bod yn gwybod bod cartrefu yn y corff yn golygu ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.

7Canys wrth ffydd y rhodiwn, nid wrth olwg.

8Mawr ynteu yw ein hyder, ac y mae’n llawer gwell gennym fod oddi cartref o’r corff â chartrefu gyda’r Arglwydd.

9Gan hynny yr ydym hefyd yn ymorchestu i ryngu bodd iddo pa un bynnag ai gartref ai oddi cartref y byddom.

10Canys y mae’n rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, fel y derbynio pob un yr hyn a wnaed trwy’r corff, yn ôl yr hyn a gyflawnodd — bid dda, bid ddrwg.

11A nyni, gan hynny, yn gwybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion ac fe’n gwnaed yn hysbys i Dduw. Hyderaf ein bod hefyd wedi ein gwneud yn hysbys yn eich cydwybodau chwi.

12Nid ydym drachefn yn ein cymeradwyo ein hunain i chwi, eithr rhoddi i chwi yr ydym achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo gennych rywbeth i wynebu’r rhai sy’n ymffrostio yn yr hyn sydd yn y golwg ac nid yn y galon.

13Canys os o’n pwyll yr ydym, i Dduw y mae hynny; os yn ein hiawn bwyll yr ydym, i chwi yr ydym felly.

14Canys y mae cariad Crist â’i orfod arnom gan ein bod wedi barnu hyn — fod un wedi marw dros bawb ac felly fod pawb wedi marw.

15A thros bawb y bu farw fel na byddo i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain eithr i’r hwn a fu farw drostynt ac a gyfodwyd.

16Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenom neb yn ôl y cnawd. A hyd yn oed os adnabuom Grist yn ôl y cnawd, eto ar hyn o bryd nid ydym mwyach yn ei adnabod fel hynny.

17Felly os yw neb yng Nghrist y mae’n greadur newydd. Darfu’r hen bethau; wele daeth pethau newydd.

18Ac y mae’r cwbl o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun drwy Grist, ac a roddes i ni weinidogaeth y cymod,

19sef bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun heb gyfrif iddynt eu troseddau ac wedi gosod ynom ni air y cymod.

20Llysgenhadau dros Grist gan hynny ydym ni, megis pe bai Duw yn eich annog drwom ni. Yr ydym yn erfyn dros Grist, cymoder chwi â Duw.

21Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth ef yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni’n gyfiawnder Duw drwyddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help