Galatiaid 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Paul Apostol, nid o ddynion na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist a Duw Dad a’i cyfododd ef oddiwrth y meirw,

2a’r brodyr oll sydd gyda mi, at eglwysi Galatia.

3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist,

4a’i rhoddes ei hun dros ei pechodau ni, fel y’n gwaredai allan o’r byd drwg presennol yn ôl ewyllys Dduw a’n Tad ni,

5i’r hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

6Rhyfedd gennyf eich symud cyn gynted oddiwrth y neb a’ch galwodd chwi trwy ras Crist, i efengyl arall,

7nad yw arall, ond bod rhai yn aflonyddu arnoch, ac yn ewyllysio gwrthdroi efengyl y Crist.

8Ond hyd yn oed os efengylwn ni neu angel o nef i chwi beth amgen nag a efengylasom ichwi, bydded anathema.

9Megis y dywedasom eisoes, dywedyd yr wyf eto yr awron, od oes neb yn efengylu i chwi beth amgen nag a dderbyniasoch, bydded anathema.

10Yr awron, ynteu, ai boddhau dynion yr wyf ai Duw? — neu geisio bodloni dynion? Pe bawn eto yn bodloni dynion, ni byddwn gaethwas Crist.

11Canys hysbysu yr wyf i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yn ôl dyn y mae hi:

12oherwydd nid gan ddyn derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd ynddi, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.

13Clywsoch am fy muchedd i gynt ym myd yr Iddew, mai dros fesur yr erlidiwn eglwys Dduw a’i difrodi hi,

14a chynhyddu ym myd yr Iddew ragor llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn helaethach fy sêl dros draddodiadau fy nhadau.

15Ond pan fu da gan hwnnw a’m neilltuodd o groth fy mam, ac a’m galwodd

Ier. 1:5; Esa. 49:1. trwy ei ras,

16ddatguddio ei fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed,

17ac nid euthum i fyny i Gaersalem chwaith at y rhai oedd Apostolion o’m blaen i, ond euthum ymaith i Arabia, a thrachefn dychwelais i Ddamascus.

18Yna, gwedi tair blynedd, euthum i fyny i Gaersalem i ymgydnabod â Cheffas, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod;

19ond arall o’r apostolion ni welais, namyn Iago, brawd yr Arglwydd.

20Am y pethau yr wyf yn eu sgrifennu atoch, wele, ger bron Duw, nid dywedyd celwydd yr wyf.

21Yna euthum i barthau Syria a Chilicia,

22a bum heb f’adnabod herwydd fy wyneb i’r eglwysi yn Iwdea sydd yng Nghrist.

23Ond yn unig, clywed yr oeddynt, “Ein herlidiwr ni gynt, y mae ef yn awr yn pregethu’r ffydd a ddifrodai o’r blaen”,

24a gogoneddent Dduw ynof fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help