1Ond bu proffwydi gau hefyd ymhlith y bobl, megis y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai’n ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, gan wadu hyd yn oed y Meistr a’u prynodd hwynt, a chan ddwyn arnynt eu hunain ddinistr buan;
2ac fe ddilyn llawer eu gweithredoedd anllad hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd.
3Ac yn eu trachwant gwnânt farsiandïaeth ohonoch chwi â geiriau ffuantus. Eu dedfryd hwy ers talm nid oeda, a’u dinistr nid yw’n hepian.
4Canys onid arbedodd Duw angylion a bechodd, eithr eu hyrddio i uffern a’u trosglwyddo i bydewau tywyllwch i’w diogelu i aros barn,
5ac onid arbedodd yr hen fyd, eithr diogelodd Noa, cyhoeddwr cyfiawnder, a saith eraill, a dwyn dilyw ar fyd o annuwiolion,
6a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, eu condemnio i ddinistr, gan eu gosod yn esiampl i rai oedd ar fedr ymroi i annuwioldeb,
7a gwaredu Lot gyfiawn, a drallodid gan rodiad anllad yr anwir —
8canys yn gweled ac yn clywed, y cyfiawn hwn, ac ef yn trigo yn eu mysg, oedd o ddydd i ddydd yn dirdynnu ei enaid cyfiawn oherwydd eu gweithredoedd di-ddeddf —
9gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu’r duwiol allan o brofedigaeth, ac i gadw’r anghyfiawn dan gosb hyd ddydd barn,
10ac yn arbennig y rhai sy’n rhodio ar ôl y cnawd, ym mlys aflendid, ac yn diystyru arglwyddiaeth. Gwŷr haerllug, trahaus, nid arswydant pan gablont bwerau gogoneddus,
11pan nad yw angylion, er eu bod yn rhagori mewn nerth a gallu, yn dwyn o flaen yr Arglwydd farn sarhaus yn eu herbyn hwynt.
12Ond y rhain, megis creaduriaid direswm, wedi eu creu wrth natur i’w dal a’u dinistrio, trwy gablu pethau na wyddant ddim oddi wrthynt, a ddinistrir hefyd yn eu dinistr hwynt,
13gan dderbyn cam fel cyflog anghyfiawnder. A hwy’n cyfrif miri liw dydd yn felyswedd, brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu hudoliaethau eu hunain pan gydwleddant â chwi,
14a chanddynt lygaid yn llawn anlladrwydd ac anniwall yn eu pechod, yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ei harfer i drachwant, plant melltith.
15Gadawsant ffordd uniawn ac aethant ar gyfeiliorn a glynu wrth ffordd Balam, fab Beor, a garodd gyflog anghyfiawnder,
16ond a gafodd gerydd am ei drosedd: llefarodd asen fud â llais dyn, ac ataliodd orffwylledd y proffwyd.
17Pydewau di-ddwfr yw’r rhain, a niwloedd a yrrir gan dymestl, y mae yng nghadw iddynt ddüwch y tywyllwch.
18Canys gan lefaru chwyddedig eiriau gwagedd llithiant trwy flysiau’r cnawd, trwy weithredoedd anllad, y rhai nad ydynt ond prin ddianc oddi wrth y sawl a rodia ar gyfeiliorn,
19gan addo rhyddid iddynt a hwy eu hunain yn gaethion llygredigaeth; canys pa beth bynnag y gorchfygwyd neb ganddo y mae ef yn gaeth i hwnnw.
20Canys os wedi iddynt ddianc rhag halogedigaethau’r byd drwy adnabyddiaeth o’r Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn gan y pethau hyn a’u gorchfygu, y mae eu diwedd yn waeth na’u dechreuad.
21Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder nag wedi ei hadnabod, droi’n ôl oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.
22Daeth i ben ynddynt y gair hwnnw o’r wir ddihareb, ci wedi dychwelyd at ei chwydiad ei hun, a hwch wedi ymolchi ohoni, at ymdreiglfa’r dom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.