Effesiaid 2 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A chwithau’n feirw gan eich camweddau a’ch pechodau

2y rhai y rhodiasoch ynddynt gynt yn null yr oes a’r byd, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr yn egni ym meibion yr anufudd-dod, —

3ac yn eu mysg y bu gynt ein buchedd ninnau oll yn chwantau ein cnawd, yn gwneuthur ewyllysiau ein cnawd a’n bryd, ac yr oeddem yn blant digofaint wrth natur fel y rhelyw hefyd, —

4ond Duw yn ei gyfoeth o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad a roes arnom, a’n cydfywhaodd ni gyda’r Crist,

5a ninnau’n feirw gan gamweddau — o ras yr ydych wedi eich cadw, — ac a’n cydgyfododd ac a’n

6gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu,

7er mwyn dangos yn yr oesoedd a ddaw dra-chyfoeth ei ras drwy ei diriondeb tuag atom ni yng Nghrist Iesu;

8canys o ras yr ydych wedi eich cadw drwy ffydd, a hynny nid ohonoch eich hunain, ond rhodd Duw ydyw,

9nid o weithredoedd rhag i neb ymffrostio.

10Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu ar gyfer gweithredoedd da a ragbaratôdd Duw i ni i rodio ynddynt.

11Gan hynny, cofiwch eich bod chwi gynt — y cenhedloedd yn y cnawd, a elwir yn ddienwaediad gan y rhai a elwir yn enwaediad, (gwaith llaw ar y cnawd oedd hynny),

12eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, yn ddi-fraint yng ngwladwriaeth yr Israel, ac yn estroniaid i gyfamodau yr addewid, heb obaith gennych a heb Dduw yn y byd.

13Ond yn awr yng Nghrist Iesu yr ydych chwithau, a oedd gynt ymhell, wedi dyfod yn agos trwy waed Crist.

14Canys ef yw ein heddwch ni, a wnaeth y ddau beth yn un ac a chwalodd ganolfur y gwahaniad, sef yr elyniaeth,

15ac a ddirymodd yn ei gnawd gyfraith y gorchmynion mewn ordeiniadau, er mwyn creu’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd gan wneuthur heddwch,

16a chymodi’r ddwyblaid yn un corff â Duw drwy’r groes, wedi lladd yr elyniaeth trwyddi hi.

17Ac fe ddaeth a chyhoeddodd heddwch i chwi y rhai pell a heddwch i’r rhai agos,

18canys trwyddo ef y mae gennym ein dau fynediad mewn un ysbryd at y Tad.

19Am hynny, nid dieithriaid a dyfodiaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion ydych â’r saint a theulu Duw,

20wedi eich adeiladu ar garreg sylfaen yr apostolion a’r proffwydi, a Christ Iesu ei hunan yn ben conglfaen.

21Ynddo ef y mae pob adeilad yn cael ei gydasio ac yn tyfu yn deml santaidd yn yr Arglwydd;

22ynddo ef hefyd y’ch cydadeiledir chwithau yn gartref i Dduw yn yr ysbryd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help