1O, Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygatynnodd chwi, a Iesu Grist wedi ei arddangos o flaen eich llygaid chwi yn groeshoeliedig?
2Hyn yn unig y mynnwn ei wybod gennych, — ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ai trwy wrando mewn ffydd?
3A ydych ynfyted? Wedi dechreu ohonoch gyda’r Ysbryd, a orffennwch chwi yn awr gyda’r cnawd?
4A brofasoch chwi gymaint yn ofer — os ofer hefyd?
5Dowch! yr un sy’n rhoddi i chwi’r ysbryd ac yn gweithio yn eich plith chwi wyrthiau — ai trwy weithredoedd deddf ai trwy wrando mewn ffydd y mae hynny?
6Diau, megis y credodd Abraham i Dduw ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
7Gwelwch gan hynny mai teulu ffydd, y rhai hyn yw meibion Abraham.
8A’r ysgrythur, gan ragweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau’r cenhedloedd, rhagefengylodd wrth Abraham: Bendithir ynot ti yr holl genhedloedd
dyn, wedi y cadarnhäer, ni bydd neb yn ei ddirymu, nac yn ychwanegu ato.16I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had
Gen. 12:7, 13:15. ef: ni ddywedir “ac i’w hadau”, megis am liaws, eithr megis am un, ac i’th had di, sef yw hwnnw, Crist.17Dyma fy meddwl — am gyfamod a gadarnhawyd ymlaen llaw gan Dduw, nid yw’r ddeddf a ddaeth bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi hynny, yn ei ddiddymu hyd at ddirymu’r addewid.
18Canys os wrth ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach wrth addewid: ond i Abraham, trwy addewid y mae Duw wedi ei rhad-roddi.
19Beth gan hynny am y ddeddf? I beri troseddau yr atodwyd hi, hyd oni ddelai’r had y gwnaethpwyd yr addewid iddo, a’i gorchymyn drwy angylion yn llaw canolwr.
20Ac nid tros un y mae canolwr, eithr Duw, un ydyw.
21A ydyw’r ddeddf gan hynny yn groes i addewidion Duw? Na ato. Canys pe rhoisid deddf ag iddi allu i beri bywyd, drwy’r ddeddf yn wir y buasai cyfiawnder.
22Eithr cyd-gaeodd yr ysgrythur bob peth oddi tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd yn Iesu Grist i’r sawl sy’n credu.
23Ond cyn dyfod y ffydd hon, yr oedd gwarchod arnom tan y ddeddf, a’n cyfyngu i’r ffydd yr oeddis ar fedr ei datguddio.
24Felly daeth y ddeddf yn was plant i’n dwyn at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd.
25Ond wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach tan was plant.
26Canys meibion i Dduw drwy ffydd ydych oll, yng Nghrist Iesu:
27oblegid cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yn un â Christ, gwisgasoch Grist.
28Ni all bod nac Iddew na Groegwr, ni all bod na chaeth na rhydd, ni all bod na gwryw na benyw: canys chwi oll, un ydych yng Nghrist Iesu.
29Ac os eiddo Crist ydych chwi, yna had Abraham ydych, etifeddion wrth addewid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.