1Cyrhaeddodd hefyd hyd Dderbe a Lystra; a dyna ddisgybl yno, a’i enw Timotheus, mab i wraig o Iddewes grediniol, a’i dad yn Roegwr;
2a châi air da gan y brodyr yn Lystra ac Iconium.
3Dymunodd Paul i hwn fynd ymaith gydag ef, a chymerth ef, ac enwaedu arno o achos yr Iddewon a oedd yn y lleoedd hynny; canys gwyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad.
4Ac wrth deithio trwy’r dinasoedd, cyflwynent i’r bobl i’w cadw y gorchmynion a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem.
5Ymgryfhau, ynteu, a wnâi’r eglwysi yn y ffydd, a mynd fwyfwy eu rhif beunydd.
6A hwythau, aethant trwy wlad Phrygia a Galatia, wedi gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân lefaru’r gair yn Asia,
7ac wedi dyfod hyd at Fysia ceisient gyrchu Bithynia, ond ni adodd ysbryd Iesu iddynt.
8Ac aethant heibio i Fysia, a dyfod i lawr i Droas.
9Ac ymddangosodd gweledigaeth i Baul liw nos, — rhyw ŵr o Facedonia oedd yn sefyll ac yn deisyf arno ac yn dywedyd, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.”
10A phan ganfu’r weledigaeth, yn ebrwydd ceisiasom fynd ymaith i Facedonia, gan gasglu bod inni wŷs oddiwrth Dduw i bregethu’r newydd da iddynt.
11Wedi hwylio, ynteu, o Droas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Nea Polis,
12ac oddiyno i Philippi; hon yw dinas bennaf rhanbarth Macedonia, a threfedigaeth Rufeinig. Buom yn y ddinas hon yn treulio rhai dyddiau.
13Ac ar ddydd Saboth aethom tu allan i’r porth i lan yr afon, lle y tybiem fod Lle Gweddi; ac wedi eistedd, dechrau llefaru wrth y gwragedd a ddeuthai ynghyd.
14A rhyw wraig, a’i henw Lydia, un a werthai borffor, o ddinas Thyatira, ac a addolai Dduw, oedd yn gwrando; ac agorodd yr Arglwydd galon hon i ddal ar yr hyn a leferid gan Baul.
15Ac wedi ei bedyddio, hi a’i theulu, cymhellodd ni, gan ddywedyd, “Os barnasoch fod gennyf ffydd yn yr Arglwydd, dowch i mewn, ac arhoswch yn fy nhŷ i.” A hi orfu arnom.
16A digwyddodd, a ni’n cyrchu at y Lle Gweddi, i ryw eneth gyfarfod â ni, a chanddi ysbryd taflu llais, yr hon a ddygai i’w meistriaid fusnes fawr trwy ddarogan.
17Canlynai hon Baul a ninnau, a gwaeddai gan ddywedyd, “Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, a mynegant i chwi ffordd iechydwriaeth.”
18A hyn a wnâi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul, wedi llwyr flino, a droes, a dywedyd wrth yr ysbryd, “Gorchmynnai i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan ohoni.” A daeth allan ar un waith.
19A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu busnes ymaith, daliasant Baul a Silas a’u llusgo i’r farchnadfa ger bron yr awdurdodau;
20ac wedi eu dwyn o flaen yr ynadon, dywedasant, “Y mae’r dynion hyn yn llwyr gythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt,
21a chyhoeddant ddefodau nad yw rydd i ni, sydd Rufeinwyr, eu derbyn na’u gwneuthur.”
22A chyfododd y dyrfa gyda’i gilydd yn eu herbyn, ac wedi peri rhwygo’u dillad gorchmynnai’r ynadon eu gwialenodio;
23ac wedi rhoi ergydion lawer iddynt bwriasant hwynt yng ngharchar, gan erchi i geidwad y carchar eu cadw yn ddiogel;
24hwnnw, wedi derbyn gorchymyn felly, bwriodd hwynt i’r carchar nesaf i mewn, a sicrhau eu traed yn y cyffion.
25Eithr tua hanner nos yr, oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a’r carcharorion yn gwrando arnynt;
26ac yn ddisymwth bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau’r carchar, ac agorodd yr holl ddrysau yn y fan, a datodwyd rhwymau pawb.
27A deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau’r carchar yn agored tynnodd ei gleddyf, ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybied ffoi o’r carcharorion.
28Ond llefodd Paul â llef uchel, gan ddywedyd, “Na wna ddim drwg i ti dy hun, canys yr ydym yma i gyd.”
29Ac wedi gofyn am olau, rhuthrodd i mewn, a syrthiodd yn ddychrynedig ger bron Paul a Silas;
30ac wedi eu dwyn hwynt allan, eb ef, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneuthur, i’m cadw?”
31Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe’th gedwir, ti a’th deulu.”
32A thraethasant air Duw iddo ef ynghyd â phawb a oedd yn ei dŷ.
33Ac fe’u cymerth hwynt yr amser hynny o’r nôs, a golchodd eu briwiau, ac fe’i bedyddiwyd ef a phawb o’r eiddo, yn y fan;
34ac wedi eu dwyn hwynt i fyny i’w dŷ rhoddes ford o’u blaen, a gorfoleddodd gyda’i holl deulu am ei fod yn credu yn Nuw.
35Ac wedi ei dyfod yn ddydd anfonodd yr ynadon y rhingylliaid, a dywedyd, “Gollyngwch y dynion hyn.”
36A mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Baul: “Anfonodd yr ynadon i’ch gollwng chwi; yn awr, ynteu, dowch ymaith, ac ewch mewn tangnefedd.”
37Ac ebe Paul wrthynt, “Fflangellasant ni ar gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, a bwriasant ni yng ngharchar; ac yn awr y maent am ein bwrw ni allan yn ddirgel, aie? Nage’n wir! Eithr deuent hwy eu hunain, a’n dwyn ni allan.”
38A mynegodd y rhingylliaid y geiriau hyn i’r ynadon; ac ofnasant pan glywsant mai Rhufeinwyr oeddynt;
39a deuthant a deisyfu arnynt, ac wedi eu dwyn hwynt allan gofynasant iddynt fynd ymaith o’r ddinas.
40Ac wedi dyfod allan o’r carchar aethant i mewn i dŷ Lydia; a gwelsant y brodyr, a’u hannog; ac aethant ymaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.