Actau'r Apostolion 7 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A dywedodd yr archoffeiriad, “Ai felly y mae’r pethau hyn?”

2Eb yntau, “Frodyr a thadau, gwrandewch. Ymddangosodd Duw’r gogoniant

y deugain mlynedd yn y diffeithwch, chwi dŷ Israel?

43 Na, cymerasoch babell Moloch

a seren y duw Rhomffa,

y llunau a wnaethoch i’w haddoli.

Ac alltudiaf innau chwi y tu hwnt yn ystod goresgyn

a’r ddaear sydd droedfainc i’m traed;

Pa dŷ a adeiledwch i mi, medd yr Arglwydd,

neu pa fan fydd fy ngorffwysfa.

50 Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?

51Chwi rai gwargaled

Ecs. 33:3. a dienwaededig o galon

Ier. 9:26. a chlust,

Ier. 6:10. yr ydych chwi yn wastad yn gwrthdaro yn erbyn yr Ysbryd Glân; fel eich tadau, felly chwithau.

52Pa un o’r proffwydi nas erlidiodd eich tadau? Ie, a lladd y rhai a ragfynegodd am ddyfod y Cyfiawn; a chwithau’n awr, bradychwyr a llofruddion fuoch iddo,

53chwi a dderbyniodd y ddeddf yn gyfarwyddyd angylion, ac nis cadwasoch.”

54Wrth glywed y pethau hyn ffyrnigent yn eu calonnau, ac ysgyrnygent eu dannedd arno.

55Yntau, ac ynddo’r Ysbryd Glân ei lond, syllodd tua’r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu’n sefyll ar ddeheulaw Duw,

56a dywedodd, “Dyma fi’n cael golwg ar y nefoedd yn agored a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.”

57Gwaeddasant hwythau â llef uchel, a chau eu clustiau, a rhuthio’n unfryd arno;

58ac wedi ei fwrw allan o’r ddinas dechreuasant ei labyddio. A dododd y tystion eu dillad wrth draed gŵr ifanc o’r enw Saul.

59A llabyddient Steffan, ag yntau’n galw ac yn dywedyd, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.”

60A chan benlinio gwaeddodd â llef uchel, “Arglwydd, na osod yn eu herbyn y pechod hwn.”

Ac wedi dywedyd hyn, fe hunodd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help