Iago RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

RHAGAIRY mae’r eglurhad a roddwyd yn rhagymadrodd cyfieithiad Bangor o Efengyl Marc, ar ddechreuad, dull, ac amcan y gwaith hwnnw, yn gymwys hefyd ynglŷn â’r gwaith hwn. Ffurfiwyd pwyllgor yn Aberystwyth, a chymeradwywyd hynny gan Adran Ddiwinyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Dilynwyd testun Nestle, oddieithr mewn man neu ddau, fel y gwel y cyfarwydd, lle dewiswyd yn hytrach ganlyn atalnodiad gwahanol, megis yn Iago v. 6. Lle na ddygymydd yr awdurdodau oll ar ystyr ymadrodd yn y Groeg, dodwyd yn y testun Cymraeg yn hyn y cytunai’r pwyllgor arno fel y cyfieithiad symlaf o’r geiriau, a darlleniadau neu awgrymiadai ereill ar waelod y dalennau. Amcanwyd rhoddi ystyr y Groeg yn gywir, heb gymedroli dim arno fel y gwnaethpwyd mewn mannau yn yr hen gyfieithiad. Lle bynnag y bernid bod ei le yn y frawddeg Roeg yn dodi pwys arbennig ar air, cadwyd y pwys trwy ddull naturiol a rhesymegol y Gymraeg o ddangos hynny, yn hytrach na thrwy geisio dilyn trefn y Roeg. Ni newidiwyd dim ar yn hen gyfieithiad er mwyn newid. Y mae arnom ddyled i Bwyllgor Bangor, trwy law’r Athrawon Syr John Morris Jones ac Ifor Williams; i’r Athro Emrys Evans, Abertawe, ac i’r Parch. Francis Roberts, Lerpwl, am awgrymiadau. Yma hefyd, nid anaddas fyddai grybwyll fynyched y cawsom brawf o ragoroldeb dysg Roeg yr hen gyfieithydd gynt, William Salesbury,T. Gwynn Jones, Cadeirydd;E. D. T. Jenkins, Ysgrifennydd;J. Young Evans;W. Jenkyn Jones; Herbert Morgan;T. H. Parry-Williams; David Williams

Aberystwyth

12 Gorffennaf, 1922.EGLURHADY TESTUNRhennir y testun yn baragraffau, ac argreffir pob paragraff yn ddidor, oddieithr bod dyfyniadau mydryddol wedi eu gosod yn llinellau. Dodir rhif pob pennod ac adnod ar yr ymyl gyferbyn a’i dechrau.Argreffir dyfyniadau o’r Hen Destament mewn llythyren dduach, a dodir cyfeiriadau atynt ar waelod y ddalen.Y NODIADAUDynoda “Neu” gyfieithiad posibl arall o’r Groeg; arferir ef lle bo rhyw amwysedd yn y gair Groeg.Dynoda “LXX” mai o’r cyfieithiad Groeg o’r Hen Destament (cyfieithiad y Deg a Thrigain) y cymerwyd y dyfyniad y cyfeirir ato; dodir ef lle bo gwahaniaeth rhwng y geiriau a’r hyn a geir yn y cyfieithiad Cymraeg o’r Hen Destament, a wnaethpwyd o’r Hebraeg.Dynoda “W-H.” destun Westcott a Hort.EPISTOL IAGO
Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help