1Atgofia hwy i ymostwng i’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, i fod yn ufudd, yn barod i unrhyw waith da,
2heb ddifenwi neb, yn ddi-gynnen, yn deg, gan ddangos pob tiriondeb tuag at ddynion oll.
3Canys yr oeddem ninnau gynt yn ddiddeall, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaeth i amrywiol nwydau a phleserau, yn treulio ein bywyd mewn malais a chenfigen, yn atgas, yn casáu ein gilydd.
4Eithr pan dorrodd dydd hynawsedd a charedigrwydd Duw ein Hiachawdwr,
5nid am weithredoedd cyfiawn a wnaethom ni, ond yn ôl ei drugaredd ef, fe’n hachubodd trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân,
6a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr,
7fel, wedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y delem mewn gobaith yn etifeddion bywyd tragwyddol.
8Gwir yw y gair, ac ar y gwirioneddau hyn yr wyf am iti roddi pwys, fel y gofalo’r rhai a gredodd yn Nuw flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.
9Eithr ffôl ddyfaliadau, ac achau a chynnen ac ymrysonau ynglŷn â’r gyfraith, gochel, canys di-fudd ac ofer ydynt.
10Y dyn croes, ar ôl iti ei rybuddio unwaith a thrachefn, gochel,
11gan wybod fod y cyfryw un yn ŵyrgam, yn pechu ac yn ei gondemnio ei hun.
12Pan ddanfonwyf Artemos neu Dychicos atat, gwna dy orau i ddyfod ataf i Nicopolis, canys y mae yn fy mryd fwrw’r gaeaf yno.
13Hebrwng i’w taith yn galonnog Senas y cyfreithiwr ac Apolos, fel na bo eisiau dim arnynt.
14A dysged ein pobl ni hefyd flaenori mewn galwedigaethau anrhydeddus ar gyfer y gofynion angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth.
15Fe’th gyfarch fy nghymdeithion oll. Cyfarch ein caredigion yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.