Hosea 13 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Pan lefarai Effraim, byddai cryndod,

Ymddyrchafodd yntau yn Israel;

Pan gamweddodd drwy Faal, bu farw.

2Ac yn awr daliant i bechu,

A gwnant iddynt dawdd-ddelw o’u harian,

Eilunod â’u deall,

Gwaith crefftwyr i gyd;

Siaradant wrthynt!

Dynion wrth aberthu yn cusanu lloi!

3Am hynny byddant fel cwmwl bore,

Neu fel y gwlith yn diflannu gyda’r plygain;

Fel us a yrrer o’r llawrdyrnu gan gorwynt,

Neu fel mwg drwy ddellt.

4Eto myfi yw Iafe dy Dduw

Er amser gwlad yr Aifft,

Ac nid adwaenost Dduw ond myfi,

Ac nid oes waredwr namyn myfi.

5Adnabûm innau di yn yr anialwch,

Yn nhir craster sych.

6Fel yr oedd eu porfa y diwallwyd hwynt,

Diwallwyd hwynt a dyrchafodd eu calon;

Am hynny anghofiasant fì.

7Byddaf innau iddynt fel llew,

Gwyliaf ar y ffordd fel llewpart,

8Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon,

A rhwygaf rwyden eu calon;

Ie, difâf hwynt yno fel llew,

Rhwyga bwystfil y maes hwynt.

9Dinistriwyd di, Israel;

Ond ynof fi y mae dy gymorth.

10Pa le y mae dy frenin ynteu,

Fel y’th waredo yn dy holl ddinasoedd?

A’th farnwyr, y dywedaist amdanynt

“Dyro imi frenin a thywysogion”?

11Rhoddais iti frenin yn fy nigllonedd,

A chymerais ef ymaith yn fy llid.

12Rhwymwyd anwiredd Effraim;

Ystoriwyd ei bechod.

13Daw arno wewyr un yn esgor,

Mab angall yw ef,

Canys amser yw i beidio â sefyll yn esgoreddfa plant.

14Prynaf hwynt o afael Sheôl,

Rhyddhaf hwynt o angau;

Pa le y mae dy blâu, angau?

Pa le y mae dy ddinistr, Sheôl?

Cuddir tosturi o’m gŵydd.

15Er ei fod yn ffrwythlon ymhlith brodyr,

Daw dwyreinwynt oddi ar yr anialwch,

Anadl Iafe yn dyrchafu,

Cywilyddir ei darddle, ac â ei ffynnon yn hesb;

Ysbeilia yntau drysor pob llestr dymunol.

16Cyfrifir Samaria yn euog,

Canys gwrthryfelodd yn erbyn ei Duw;

Syrthiant drwy’r cleddyf,

Dryllir eu plant, a rhwygir eu beichiogion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help