1Eto y mae’r ysbryd yn dywedyd yn eglur y gwrthgilia rhai oddi wrth y ffydd yn yr amseroedd diwethaf, gan roi coel ar ysbrydion camarweiniol a dysgeidiaeth daimoniaid, a ddysg gau athrawon
2wedi eu serio yn eu cydwybod,
3sydd yn gwahardd priodi, yn erchi ymwrthod â bwydydd a greodd Duw i’w cymryd gyda diolch gan y rhai sydd yn credu ac yn adnabod y gwirionedd.
4Canys popeth a greodd Duw, da ydyw, ac nid oes dim ysgymun o’i dderbyn gyda diolch,
5canys fe’i cysegrir gan air Duw a deisyfiad.
6O osod y pethau hyn gerbron y brodyr, gwas da i Iesu Grist fyddi, yn dy feithrin dy hun yng ngeiriau’r ffydd a’r ddysg ragorol y glyni wrthi.
7Ond anghysegredig a gwrachïaidd chwedlau, gochel, eithr ymarfer dy hun i dduwioldeb,
8canys y mae ymarfer corff yn fuddiol dros ychydig, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bopeth, a chanddo addewid am y bywyd y sydd ac a fydd.
9Gwir yw y gair a theilwng o bob croeso;
10canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymorchestwn, am inni osod ein gobaith ar Dduw byw y sydd achubwr dynion oll, yn enwedig credinwyr.
11Gorchymyn ac addysga’r pethau hyn.
12Na ddirmyged neb dy ieuenctid di, eithr bydd yn esiampl i’r credinwyr mewn ymddiddan, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffyddlondeb, mewn purdeb.
13Hyd oni ddelwyf, dyro sylw i’r darllen, i’r cynghori, ac i’r addysgu.
14Nac esgeulusa’r ddawn sydd ynot, a roddwyd iti trwy fynegiad proffwydol ynghydag arddodiad dwylo’r henuriaeth.
15Bydd ddyfal gyda’r pethau hyn; bydd fyw ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.
16Gwylia arnat dy hun ac ar dy ddysgeidiaeth, dal ati; o wneuthur hyn, ti a’th achubi dy hun a’th wrandawyr hefyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.