Rhufeiniaid 6 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Beth ynteu a ddywedwn? A ydym i lynu wrth bechod fel y cynyddo gras?

2Na ato! A ni wedi marw i bechod, pa fodd mwyach y byddwn byw ynddo?

3Ai heb wybod yr ydych am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, mai i’w farwolaeth y bedyddiwyd ni?

4Claddwyd ni gydag ef felly trwy fedydd i farwolaeth, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb bywyd.

5Canys os tyfasom yn un â chyffelybrwydd ei farwolaeth, byddwn felly hefyd â chyffelybrwydd ei atgyfodiad,

6gan ddeall hyn, ddarfod cyd-groeshoelio ein hen ddyn ni, fel y dirymer ein corff pechadurus, fel na byddom gaeth i bechod mwyach.

7Oblegid y mae’r marw yn rhydd oddi wrth bechod.

8Ac os buom farw gyda Christ, yr ydym yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef,

9am y gwyddom nad yw Crist, ac yntau wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwy; nid yw marwolaeth yn feistr arno mwy.

10Canys am ei farw, i bechod y bu farw unwaith, ond am ei fyw, byw y mae i Dduw.

11Yr un modd, chwithau, cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu.

12Gan hynny, na theyrnased pechod yn eich corff marwol, i ufuddhau i’w chwantau,

13ac na chyflwynwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, ond cyflwynwch eich hunain i Dduw, megis o farw yn fyw, a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw;

14canys ni bydd pechod yn feistr arnoch chwi, oblegid nid ydych dan ddeddf ond dan ras.

15Beth gan hynny? A ydym i bechu, oblegid nad ydym dan ddeddf ond dan ras? Na ato!

16Oni wyddoch am bwy bynnag y cyflwynwch chwi eich hunain iddo yn gaethion i ufudd-dod, eich bod yn gaethion i’r neb yr ufuddhewch iddo, naill ai pechod i farwolaeth, neu ufudd-dod i gyfiawnder?

17Ond diolch i Dduw! caethion pechod oeddech, ond ufuddhasoch o galon i batrwm dysgeidiaeth y traddodwyd chwi iddo,

18ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod caethiwyd chwi i gyfiawnder.

19Ar wedd ddynol y llefaraf, oherwydd gwendid eich cnawd. Megis y cyflwynasoch eich aelodau yn gaethion i aflendid ac anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr cyflwynwch eich aelodau yn gaethion i gyfiawnder er sancteiddrwydd.

20Canys pan oeddech gaethion pechod, rhydd oeddech o ran cyfiawnder.

21Pa ffrwyth, ynteu, oedd i chwi y pryd hwnnw? Pethau y cywilyddiwch yn awr o’u plegid, oblegid diwedd y rheini yw marwolaeth.

22Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod a’ch caethiwo i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol.

23Canys cyflog pechod, marwolaeth yw, ond dawn Duw, bywyd tragwyddol yw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help