1A chlywais lef uchel o’r cysegr yn dywedyd wrth y saith angel: Ewch a thywelltwch y saith ffiol o lid Duw ar y ddaear.
2Ac aeth y cyntaf allan a thywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a daeth cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt ac yn addoli ei ddelw.
3A thywalltodd yr ail ei ffiol ar y môr; a daeth gwaed megis gwaed un marw, a threngodd popeth byw a oedd yn y môr.
4A thywalltodd y trydydd ei ffiol ar yr afonydd a ffynhonnau’r dyfroedd; a daeth gwaed.
5A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd: Cyfiawn wyt, yr hwn sydd a’r hwn oedd, y sanctaidd, canys dy ddedfryd oedd hyn:
6am dywallt ohonynt waed saint a phroffwydi, rhoddaist iddynt hwythau waed i’w yfed; dyma a haeddant.
7A chlywais yr allor yn dywedyd: Ie, Arglwydd Dduw hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnedigaethau.
8A thywalltodd y pedwerydd ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo losgi dynion â thân.
9A llosgwyd dynion â gwres mawr, a chablasant enw Duw y sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn, ac nid edifarhasant i roddi iddo ogoniant.
10A thywalltodd y pumed ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; ac aeth ei deyrnas yn dywyll, a chnoent eu tafodau gan boen,
11a chablasant Dduw’r nef oherwydd eu poenau ac oherwydd eu cornwydydd, ac nid edifarhasant am eu gweithredoedd.
12A thywalltodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, Ewffrates; a sychodd ei dwfr fel y paratoid ffordd y brenhinoedd o’r dwyrain.
13A gwelais o safn y ddraig ac o safn y bwystfil ac o safn y gau broffwyd dri ysbryd aflan megis llyffaint;
14canys ysbrydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion, ac ânt allan yn erbyn brenhinoedd yr holl fyd i’w casglu ynghyd i ryfel dydd mawr Duw hollalluog.
15(Wele, yr wyf yn dyfod fel lleidr; gwyn ei fyd y sawl sy’n effro ac yn cadw ei ddillad amdano, fel na rodio’n noeth ac na welont ei noethni.)
16A chasglasant hwynt ynghyd i’r lle a elwir yn Hebraeg Harmagedon.
17A thywalltodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llef uchel allan o’r cysegr, o’r orsedd, yn dywedyd: Dyna’r diwedd.
18A bu mellt a lleisiau a tharanau, a bu daeargryn mawr na ddigwyddodd ei fath er pan yw dyn ar y ddaear, daeargryn mor anferth o fawr.
19Ac aeth y ddinas fawr yn dair rhan, a chwympodd dinasoedd y cenhedloedd. A galwyd Babilon fawr i gof gan Dduw i roddi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint ef.
20A diflannodd pob ynys, a mynyddoedd nis cafwyd.
21A disgyn cenllysg mawr, tua thalent yr un o bwysau, o’r nef ar ddynion; a chablodd y dynion Dduw oherwydd pla’r cenllysg, canys ofnadwy o fawr yw pla’r cenllysg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.