1Felly, gan ddioddef o Grist yn y cnawd, ymarfogwch chwithau hefyd â’r un meddwl, canys y mae’r hwn a ddioddefodd yn y cnawd wedi peidio â phechod,
2fel nad ydyw mwyach yn byw dros weddill ei dymor yn y cnawd yn ôl blysiau dynion, eithr yn ôl ewyllys Duw.
3Canys digon yr amser a aeth heibio i gyflawni dymuniad y cenhedloedd, gan rodio mewn anlladrwydd, blysiau, gwinwleddoedd, cyfeddach, diota, ac eilun-addoliaeth anfad.
4Yn hyn rhyfeddu y maent, a chablu, am nad ydych chwi’n cydredeg â hwynt i’r un cenllif afradlonedd.
5Dyry’r rhain gyfrif i’r hwn sy’n barod i farnu’r byw a’r meirw.
6Canys i hyn y cyhoeddwyd yr efengyl i’r meirw hefyd, fel wedi eu barnu yn y cnawd yn ôl dynion, y byddont byw yn yr ysbryd yn ôl Duw.
7Diwedd pob peth sydd agos. Byddwch gan hynny’n sobr a gofalus mewn gweddïau.
8Yn flaenaf oll, byddwch wresog yn eich cariad at eich gilydd, canys y mae cariad yn cuddio lliaws o bechodau;
9yn lletygar at eich gilydd, heb rwgnach.
10Megis y derbyniodd pob un ddawn, gweinyddwch honno y naill i’r llall megis goruchwylwyr da ar ras amryfal Duw.
11Y neb sy’n llefaru, llefared megis oraclau Duw. Y neb sy’n gweinyddu, gweinydded megis o’r nerth a gyflenwa Duw, fel ym mhopeth y gogonedder Duw drwy Iesu Grist, i’r hwn y mae’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12Anwyliaid, na ryfeddwch am y llosgfa yn eich mysg a ddaeth er prawf arnoch, fel petai rhywbeth rhyfedd yn syrthio i’ch rhan,
13eithr llawenhewch gan eich bod yn cyfranogi yn nioddefiadau Crist, fel y llawenychoch ac y gorfoleddoch yn natguddiad ei ogoniant ef hefyd.
14Os gwaradwyddir chwi o achos enw Crist, gwyn eich byd, gan fod ysbryd y gogoniant ac ysbryd Duw yn gorffwys arnoch.
15Canys na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd neu leidr neu ddrwgweithredwr neu ymyrrwr;
16eithr os fel Cristion, na chywilyddied, eithr gogonedded Dduw yn yr enw hwn.
17Canys dyma’r adeg i’r farn i ddechrau gyda thŷ Dduw, ond os gyda ni’n gyntaf, beth fydd diwedd y rhai sy’n anghredu efengyl Duw?
18Ac os o’r braidd yr achubir y cyfiawn, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur?
19Am hynny, cyflwyned y rhai sy’n dioddef yn ôl ewyllys Duw eu heneidiau i Greawdwr ffyddlon trwy wneuthur daioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.